31/01/2015

Arholiadur

Dw i'n ymwybodol bod rhai yn ein dosbarth yn gofyn yr un cwestiwn o'n i'n gofyn blwyddyn yn ôl - dylwn i sefyll yr arholiad? Neu pam ddylwn i sefyll yr arholiad? Ro'n i eisoes wedi sefyll arholiad mynediad, sylfaen, canolradd ond roedd y cam nesaf yn un fwy ac i ddechrau ro'n i'n anfodlon. Penderfynais i fynd ati yn y diwedd ac mae'r post hwn yn siarad am y profiad.

Yn gyntaf ro'n i'n poeni am y ffolio. Dyna'r cam mawr yn arholiad uwch sy ddim yn bodoli yn y lefelau is. Un o'r opsiynau roedd rhaid i fi ddewis oedd project llenyddol, ac yn yr ysgol ro'n i'n casáu'r gwersi Saesneg, dadansoddi llyfrau a barddoniaeth.

Roedd yr ail beth yn syml: does dim angen i fi sefyll yr arholiad er mwyn cael swydd neu un rhywbeth arall. Pam ddioddef y straen?

Wel weithiau mae angen i fi gael tipyn o straen, tipyn o her, rhywbeth sy'n fy ngorfodi i i wneud rhywbeth gwahanol er mwyn gwella. Do'n i'n gwybod dim byd am lenyddiaeth Cymraeg, a dweud y gwir, ond dyn nhw ddim yn edrych am erthygl ysgolheigaidd, dim ond eich bod chi'n gwneud gwerthfawrogiad o'r darnau ac yn cyfathrebu amdanyn nhw.

Felly, pa brofion sydd yna?
  1. Gwrando, gwylio a deall. Dyna beth dyn ni'n neud yn y dosbarth. Bron bob tro bydd a darn gwrando a deall yn dod o episod Beti a'i phobol ble mae Beti George yn cael cyfweliad gyda rhywun. Fel arfer mae'r sgwrs yn glir. Dych chi'n gallu gwrando ar lawer o episodau o'r rhaglen ar safle Radio Cymru. Ro'n i'n poeni lot am y prawf hwn ond ar ôl gwrando ar sawl episod aeth pethau yn well.
  2. Siarad (Prawf Llafar). Dim ond sgwrsio gydag arholwr ac i fod yn onest taswn i'n gallu gwneud hynny, basai un rhywun achos dw i ddim yn sgwrsio yn hyderus hyd yn oed yn Saesneg. Mae'n rhaid i chi ddarllen dau lyfr o restr ac yna yn sgwrsio amdanyn nhw hefyd.
  3. Ffolio. Gwaith byddwch chi wedi paratoi erbyn diwedd mis Ebrill. Pedwar traethawd tua tudalen yr un, a sgwrs gyffredinol ar dâp. Hefyd, naill ai Y Project Ymarferol neu Y Project Llenyddol. Mwy am hynny wedyn.
  4. Darllen a deall. Ar ôl ddarllen Craciau, Noson yr Heliwr a Rhwng Edafedd yn y dosbarth bydd y darnau yma'n easy peasy.
  5. Ysgrifennu. Mae'n rhaid ysgrifennu'n fwy ffurfiol, ond bydd y traethodau yn help mawr.
Os oes modd i chi gwneud y project ymarferol baswn i'n dweud bod lot haws. Dych chi'n gweithio am 20 awr mewn sefyllfa lle mae pobl yn siarad Cymraeg. Mewn ysgol, mewn meithrin, grŵp Cymraeg, siop Cymraeg, ayyb. Wedyn ysgrifennu tudalen neu ddau am y profiad a recordio sgwrs am y profiad. Os dych chi yn gweithio'n well gyda phobl eraill, dyna chi.

Doedd dim cyfle i fi wneud hynny (yn enwedig achos mod i'n rhy hwyr i ddechrau) felly dewisais i'r Project Llenyddol. Rhan un yw gwylio drama Cymraeg, neu ffilm hir Cymraeg, ysgrifennu adolygiad (hanner tudalen) a recordio sgwrs 15 munud ar dâp. Mae lot o eiriau yn 15 munud, felly roedd rhaid i fi baratoi yn fanwl. Mae'r ffilmiau ar gael ar DVD ond gwyliais i Hedd Wyn ar youtube.

Rhan dau yw traethawd ar bedair cerdd. Dewisais i'r grŵp ar y thema Rhyfel achos roedd cysylltiad gyda'r ffilm. Pan ddechreuais i edrych ar y cerddi ro'n i mewn panig achos deallais i ddim byd. Ond ar ôl dipyn o waith dechreuodd pethau gwympo mewn lle. Dysgais i dipyn am gynghanedd ac englyn, ffurfiau sy'n unigryw i farddoniaeth Cymraeg. Dechreuais i fwynhau pwnc o'n i'n arfer casáu yn yr ysgol. Wel tipyn bach.

Roedd llawer o waith yn y ffolio, ond roedd e'n werthfawr dros ben er mwyn gwella safon fy Nghymraeg a hefyd codi diddordeb mewn diwylliant Cymraeg. Roedd fy Mam yn arfer dweud
Mwy dych chi'n rhoi i fywyd, mwy dych chi'n derbyn
Mae hynny yn wir.

No comments:

Post a Comment