02/02/2015

Ar goll yn cyfieithu

Dych chi'n gallu cyfieithu Lost in Translation fel hynny?

Mae'r GIG wedi bod yn moderneiddio. Hwyl fawr i aros mewn ciw, yn gwrando ar hysbysebion iechyd cyhoeddus tan y dderbynyddes yn ateb y ffôn a helo i'r Profiad Ar-Lein newydd sbon sgleiniog! Dewiswch y meddyg, edrych ar restr o apwyntiadau ar gael a chliciwch.

Wedyn, 24 awr cyn yr apwyntiad, byddwch yn derbyn neges e-bost fel 'na:

Appointment Reminder/Cafodd yr apwyntiad ei ganslo

Be' ddigwyddodd? O, dim problem. Dim ond apwyntiad y Welshies sy wedi cael ei ganslo; mae'r apwyntiad yn Saesneg yn iawn. Ha ha, doniol iawn.

Ond dyw hi ddim yn ddoniol. Tasai fy Mam yng nghyfraith wedi derbyn y neges hon, basai hi wedi credu'r neges Gymraeg a fasai hi ddim wedi mynd. Mae'r neges yn y Gymraeg yn hollol glir ac yn hollol anghywir. Beth yw'r pwynt mewn darparu cyfieithiad anghywir, yn enwedig un fydd yn achosi gofid i'r darllenydd?

Mae fy ngwraig wedi derbyn tair neges fel hynny erbyn hyn. Y tro cyntaf cwynodd hi i'r feddygfa leol. Dim diddordeb - "Sorry love, it's the NHS system, not ours. Anyway it's obvious if you look at the English". E-bostiodd hi wales.nhs.uk - dim ymateb. Yr ail dro, e-bostiodd hi Fwrdd yr Iaith - dim ymateb. Ac y tro 'ma? Pwy fydd yn gwrando, a phryd? Efallai pan mae clefyd ar goll yn cyfieithu.

No comments:

Post a Comment