16/01/2015

Iaith y Nefoedd

Yr wythnos hon ro'n ni'n drilio ymadroddion yn debyg i "gwyn eich byd".
Dw i'n mynd i ffwrdd fory - Gwyn eich byd chi
Mae e'n ymddeol y mis nesa - Gwyn ei fyd e.

Mae hi'n swnio braidd yn od, ond hen idiom yw hynny. Ym Meibl William Morgan mae'r rhan gyntaf o'r Bregeth ar y Mynydd yn cael ei hadnabod fel 'Y Gwynfydau' achos mae pob pennill yn dechrau gyda 'Gwyn eu byd'
Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,
oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
Mae cyfieithiad cyfoes yn hollol wahanol
Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau
Defnyddiodd Waldo Williams  yr un idiom yn gytgan ei gerdd 'Y Tangnefeddwyr', un o'r cerddi Gymraeg enwocaf yr ugeinfed ganrif.
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,
Tangnefeddwyr, plant i Dduw.
Astudiais i'r gerdd ar gyfer arholiad uwch y llynedd ac mae hi'n un pwerus. Heddychwr oedd Waldo Williams a lleoliad ei gerdd yw’r bomio Abertawe dros dri diwrnod ym mis Chwefror 1941. Nid am y rhyfel ei hun yw’r gerdd ond am agweddau pobl tuag at ei gilydd. Dysgodd o’i rieni bwysigrwydd gwirionedd a maddeuant, a'r perygl o feirniadu pobl a chenhedloedd fel petai ni sy’n dda a’r rheini sy’n ddrwg.

Ar ddiwedd y gerdd mae'r bardd yn gofyn pam ddylwn ni boeni am bethau bychain fel hyn pan mae’r holl fyd yn fflam? Yn ôl Waldo, dylwn, achos mae cymdeithas sefydlog yn seiliedig ar wirionedd a maddeuant, nid ar nerth a choncwest.

Tybed byddai Waldo'n cytuno â theimladau arddangoswyd ar dudalen cyntaf  cylchgrawn 'Charlie Hebdo' yr wythnos hon?
Mae popeth yn cael ei maddau;
Fi hefyd yw Charlie

1 comment:

  1. Diddorol cymharu y cyfeithiadau o'r un adnod yn Mathew. Er fod yr un cyfoes yn haws ei ddeall, gwell gen i gyfoethogrwydd fersiwn yr Esgob William Morgan - ac mae e dipyn yn fwy cofiadwy. 'Gwyn dy fyd di,' fyddai Mam yn dweud erioed!

    ReplyDelete