Derbyniais i Kindle dros y Nadolig - bachgen da o'n i y llynedd - a dw i wedi prynu fy llyfr Cymraeg cyntaf ar ei gyfer, Mr Blaidd gan Llwyd Owen. Cafodd rhan o'r stori 'ma ei ddefnyddio ym mhrawf darllen a deall arholiad Uwch 2014 ac edrychodd e'n ddiddorol. Stori ditectif yw hwn sy'n sôn am bethau tywyll; stori am lofruddiaeth, puteiniaid, treiswyr ayyb. Ond mae llawer o hiwmor hefyd mewn bywyd yr hen dditectif sy'n breuddwydio am fyw yn Sbaen ar ôl iddo fe ymddeol, gyda chymaint o ferched ifanc sy'n ei ffansio fe.
Dw i wedi prynu ffôn symudol newydd hefyd ar ôl i fi golli amynedd gyda'r un hen, araf ... buffering ... araf. Ac, we-hei! mae digon o le i mi lawrlwytho Ap Geiriaduron bellach, geiriadur swyddogol, parchus o brifysgol Bangor, sy'n addas i iPhone ac Android. Roedd y geiriadur ar fy hen ffôn yn niwsans achos yr hysbysebion. Byddwn i hanner ffordd trwy deipio gair tu mewn a - bing! Prynwch Candy Crush Saga Nawr! Bargen! Cau'r hysbyseb, cau'r ap, dechrau eto. Grrr.
Wrth gwrs mae popeth yn iawn nawr. Ap go iawn, dim hysbysebion o gwbl, atebion cyflym ... ond mae problem newydd. Mae'r geiriadur y brifysgol yn barchus iawn ac mae rhai geiriau pwysig ar goll.
Roedd y bwyty'n drewi ar ddiwedd y dydd, o saim a bacwn, rhechfeydd a mwg.
Hmm, mae'n swnio'n cyfarwydd ond beth yw'r gair? Wel mae'n amlwg bod neb yn y brifysgol yn rhechu erioed achos does dim un gair sy'n dechrau gyda rhech. Mae'r llyfr yn llawn o iaith liwgar sy ddim yn cael ei esbonio yn yr ap.
Mae'r llyfr yn sôn am dogging hefyd (rhan bwysig o fy addysg yw'r stori 'ma). Mae'r prif dditectif yn archwilio ar y we, ac yn darllen hefyd am seagulling. Beth yn y byd yw seagulling? Lle tywyll siwr o fod ac oes cymorth gyda'r disgrifiad o'r geiriadur enfawr? Nac oes. Mae'r twr iforaidd yn lle saf a chyfforddus o hyd.
Does dim syniad gyda fi beth yw "Seagulling"!
ReplyDeleteDwi'n gwybod nawr! Ych a fi!
Mae'r awdur yma yn llawn o eiriau diddordol! ;)
Rhaid ymddiheurio i unrhyw berson nerfus sydd wedi eu hypsetio gan y post yma. Roedd yn agoriad llygad i fi hefyd. Rwy'n beuo'r tiwtoriaid yng Ngholeg Gwent. Doedd Simon byth fel yn siarad fel hyn o'r blaen!
ReplyDelete