23/01/2015

Technoleg i'r Adwy

Y tro diweddaf soniais i am Ap Geiriaduron, offeryn defnyddiol iawn i gadw ar eich ffôn symudol (er gwaetha fy nghwynion). Clywais i ddoe am wasanaeth ar-lein i gywiro sillafu a gramadeg Cymraeg, Cysill Ar-lein. Mae'r safle hwn yn dod o Brifysgol Bangor hefyd ac mae e'n ar gael am ddim. Teipiwch (neu ludo) eich testun yn y bwlch a chlicio ar Wirio. Bydd e'n dangos y camsillafiadau ac yn awgrymu geiriau eraill, a bydd e'n dangos camgymeriadau gramadegol a chamdreigladau ac yn esbonio'r reswm ac awgrymu'r ffurf cywir.

Gwaith cartref Cymraeg? Dim problem. Sgwennwch draethawd yn Saesneg, Google Translate, Cysill Ar-lein a dyna chi - traethawd llenyddol fel un gan Kate Roberts. Wel nid cweit. Fel pob spellcheck does dim syniad gyda fe am yr ystyr. Sothach yw sothach, hyd yn oed sothach cywir. Ond mae e'n ddefnyddiol iawn, yn enwedig i gywiro'r blog hwn.

Wrth siarad am sothach, mae Microsoft Word yn un da i drosglwyddo Cymraeg da i Wenglish wedi manglo gan droi 'i' → 'I' a 'iawn' → 'yawn' ayyb. Fel arfer mae e'n neud hynny yn dawel a dw i ddim yn sylweddoli tan y diwedd - Be'? Ysgrifennais i mo hynny! Wrth gwrs dych chi'n gallu troi'r spellcheck off yn yr opsiynau ond mae e'n off mewn dogfennau Saesneg hefyd wedyn. Y tric yw gwahanu iaith y ddogfen. Ewch i Review ar y rhuban ac wedyn Language, Set proofing language a dewiswch Welsh (neu Do not check spelling and grammar).

Yn anffodus does dim esgus gyda fi bellach am gamdreiglo mor aml.

3 comments: