Cafodd y Testament Newydd ei gyfieithu yn gyntaf ac Salesbury oedd y prif gyfieithydd. Cyhoeddwyd ei waith yn gyntaf ym 1567. Roedd Salesbury yn ysgolhaig disglair a gwnaeth e gyfieithiad ardderchog y Testament Newydd yn ogystal â chynhyrchu geiriadur Saesneg-Cymraeg a hefyd disgrifiad seiniau'r iaith Cymraeg (A briefe and a playne introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong).
Ond roedd gyda fe syniad yn ei ben sy'n ein heffeithio ni yn yr iaith Cymraeg erbyn heddiw. Er mwyn safoni'r iaith i'w gwneud hi'n fwy derbyniol i ysgolheigion eraill, ceisiodd e Ladineiddio hi, hynny yw, gwneud rhai geiriau Cymraeg yn edrych fel geiriau Lladin. Ysgrifennodd e Eccles yn lle Eglwys a Discipulon yn lle Disgyblion. Dyw'r ffurfiau hyn ddim wedi goroesi erbyn heddiw ond mae un sy wedi sticio. Heddiw dyn ni i gyd yn ysgrifennu ei (yn debyg i'r Lladin eius) ond dyn ni'n dweud i.
Ysgrifennodd Gareth King hynny yn y Modern Welsh Dictionary:
In all its uses, ei sounds in normal speech (and always has) as if spelt i - the spelling is an artificial one based on mistaken etymology. Pronouncing it as written sounds affected to most native speakers.Ond beth ydyn ni dysgwyr yn dweud fel arfer? ei wrth gwrs, neu ai. Pan dyn ni'n dechrau mewn dosbarth Cymraeg, dyn ni'n dysgu bod y Gymraeg yn cael ei hysgrifennu yn ffonetig. Easy peasy bob tro, popeth yn rheolaidd. Wel o'i chymharu â Saesneg, sy'n hollol wallgof, mae hynny yn wir wrth gwrs, ond mae tipyn bach o afreolaidd amdani.
Gaeaf, cynhaeaf, amaethwr, gwasanaethau ... ym mhob un dylai ae yn cael ei ynganu fel ei. Sa i'n siŵr pam, ond rheol anffurfiol Simon (no money back, no guarantee) yw
ae in the penultimate syllable is pronounced as eiDoes dim problem gyda (geiriau) bod yn afreolaidd ond yn aml, dyn ni'n edrych ar y sillafiad yn unig a dyn ni ddim yn sylwi'r gwahaniaeth gyda'n clustiau. Ar ôl tua 10 mlynedd o ddysgu Cymraeg mae'n rhaid i fi geisio newid sut dw i'n ynganu rhai geiriau cyfarwydd iawn er mwyn sbico better Welsh.
No comments:
Post a Comment