Simon Large ydw i, yn wreiddiol o Wlad yr Haf, a dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua 2007. Yng Ngwent, ble dw i'n byw, mae'r ddarpariaeth i ddysgwyr yn wych trwy wasanaethau Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.
Dechreuais i'r blog 'ma er mwyn ymarfer Cymraeg ysgrifenedig trwy rannu fy mhrofiadau o ddysgu, rhannu safleoedd sy wedi bod yn ddefnyddiol i fi, dweud storĂ¯au, a ffeindio pethau sy'n ddoniol (neu jyst od).
Daeth enw'r blog o'r nofel Dirgel Ddyn gan Mihangel Morgan. Darllenais i hon ar gyfer arholiad uwch a dw i'n ei hargymell. Tipyn o her oedd hynny i ddysgwr fel fi, ond mae'n stori glyfar, eitha doniol mewn rhannau ond weithiau yn drist hefyd. Mae cyfrinachau gyda phawb ...