07/07/2015

Adolygiad Blasu

Do'n i ddim yn siŵr am y llyfr hwn i ddechrau. Llyfr am goginio, phobi a merched y wawr yw e? Darllenon ni ddetholiad yn y dosbarth ac ar ôl i fi orffen yr ail bennod cefais i fy machu.

Mae'r stori'n dechrau yn 2010 gyda Pegi yn ei pharti pen-blwydd 80 oed yn meddwl nôl am ei bywyd, ac yn ogystal â chofion hapus mae'n amlwg bod cysgodion tywyll yn llechu yn y cefndir hefyd. Wedyn dyn ni'n mynd nôl i 1937 pan oedd hi'n 7 oed ac mae gweddill y llyfr yn dweud ei stori hi.

Nid yn ei geiriau ei hun dywedir y stori ond gan sawl person oedd yn bwysig yn ei bywyd, pob pennod gan berson gwahanol. Trwy sawl llais a dros 80 mlynedd dyn ni'n dysgu hanes Pegi ac yn gweld bywyd mewn cymuned wledig yng ngogledd Cymru. Mae pob pennod yn dechrau gyda rysáit, rhyw fath o fwyd oedd yn bwysig iddi, neu sy'n ei hatgoffa hi o'r gorffennol.

Mae Manon Steffan Ros wedi creu nofel unigryw, ac mae ei sgil mewn gwehyddu edafedd y stori yn amlwg. Enillodd hi lyfr y flwyddyn yng nghategori ffuglen gyda Blasu yn 2012 ac mae'n hawdd gweld pam. Weithiau dw i'n gripped gan stori antur neu dditectif ond prin gan stori fywgraffyddol. Mwynheais i bob tudalen a gallwn i ddim stopio darllen.

Prin iawn hefyd, mae stori wreiddiol Cymraeg wedi cael ei chyfieithu i Saesneg, a dw i'n meddwl am brynu The Seasoning i 'nhad yn Lloegr.

02/06/2015

Caneuon Cymraeg ar y Maes

Roedd y gantores Kizzy Crawford yn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cafodd hi ei bwcio i berfformio yn sioe'r noswaith ond roedd hi ar y maes trwy'r dydd. Roedd hi'n canu tu allan i babell S4C pan welais i hi'n gyntaf. Doedd dim llawer o bobl yn aros i'w wylio yn anffodus ond canodd hi set o'i chaneuon ei hun, dim ond hi a'i gitâr.

A dyna sut mae hi'n perfformio fel arfer. Weithiau mae band gyda hi, ond ar lwyfan Glastonbury y llynedd perfformiodd hi ar ei phen ei hunan gyda gitâr a looper, ffaith yn fwy hynod achos dim ond 17 oed oedd hi ar y pryd.

Dw i'n dwlu ar weld sgiliau o gerddorion ardderchog. Yn ogystal â'i llais gwych mae hi'n gitarydd galluog sy'n defnyddio amrywiaeth o dechnegau ar y gitâr i gael seiniau gwahanol, ac yn adeiladu haenau o sain gyda'r looper. Mae'r clip 'ma'n dangos y canlyniadau, recordiwyd yn fyw.


Mae mwy o dracs ar gael am ddim ar SoundCloud gyda'i band. Dw i'n argymell Brown Euraidd gyda dylanwadau Jazz ac Enaid.

Urdd Gobaith Cymru

http://www.urdd.cymru/cy/
Ymwelais i ag Eisteddfod yr Urdd dros yr hanner tymor eleni. Ro'n ni'n arfer mynd yn flynyddol pan oedd y plant yn iau ond dw i ddim wedi bod yna ers sbel. Profiad gwych oedd e, a dw i'n argymell ymweliad os oes modd i chi yn y dyfodol.

Mae'r Eisteddfod yn beth unigryw i Gymru a does dim byd yn debyg yn Lloegr i'w chymharu. Lle i ddathlu diwylliant Cymreig; lle mae'r famiaith yn cael ei siarad ymhobman; lle mae'r plant yn siarad yn gyffrous ar y maes ar ddiwrnod allan gyda'u ffrindiau; efallai jyst lle i ddathlu bod yn Gymro.

Aeth cystadlu mewn ysgolion allan o ffasiwn am sbel. Pan mae rhywun yn ennill, mae rhywun arall yn colli, a ddylai plant byth golli rhag ofn bod nhw'n dod yn ddigalon, meddai rhai. Sothach! Mae bywyd ei hunan yn gystadleuaeth ac mae'n rhaid i bawb ymdopi gyda'r ffaith 'na.

Mae rhai o'r cystadlaethau unigol angen safonau uchel dros ben er mwyn cyrraedd y llwyfan. Edrychwch ar yr unawd piano, neu linynnol eleni ar S4C Clic i weld y dalent anghredadwy o blant yng Nghymru. Ond mae lot o gystadlaethau yn angen rhywbeth gwahanol. Gyda grŵp llefaru, corau, cân actol, dawnsio gwerin ayyb, y peth pwysicaf yw gweithio fel tîm, dilyn yr arweinydd, canolbwyntio a chwarae'ch rhan. Dyna sgiliau pwysig i bawb yn y byd real. A does dim rhaid bod yn gantor gwych, yn ddawnsiwr arbennig, yn beldroediwr medrus neu'n athrylith fathemategol. Mae pawb yn gallu cymryd rhan, nid y mwyaf galluog yn unig.

Mae llawer o hwyl mewn cymryd rhan, mewn paratoi, mewn gweithio'n galed ar rywbeth. Mae ennill yn bwysig ond mae ceisio yn bwysicach. Os dych chi ddim yn ennill, wel dim ots. Mae angen i ni i gyd dysgu sut i geisio, eto ac eto, achos dyw bywyd ddim yn un gyfres hir o lwyddiannau. Wel nid i fi ac nid i unrhyw un dw i'n nabod.

Weithiau pan dw i wedi cael llond bol o fywyd ac yn teimlo'n flinedig, dw i'n edrych at y plant 'ma ac mae'r brwdfrydedd yn fy ysbrydoli fi unwaith eto. Daliwch ati, blant! Chi yw gobaith Cymru.

10/05/2015

Fy Arwres Newydd

Gwleidyddiaeth Gymraeg, nofelau Cymraeg, hanes Cymraeg. Ble mae'r wyddoniaeth, ble mae'r beiriannaeth? Dw i angen arwr (ac arwres)!

Dyna ni, mathemategydd, peiriannydd ac athrolith Fictoriaidd Charles Babbage, creadwr y cyfrifiadur mechanaidd cyntaf.

Roedd Babbage yn gymeriad diddorol. Yn ei amser sbar roedd e'n arfer darllen log tables er mwyn siecio eu cywirdeb (trist) ac roedd e'n grac iawn achos y camgymeriadau. Penderfynnodd e greu peiriant i gyfrifo'r rhifau yn lle defnyddio pensil a phapur. Derbynnodd e £17,000 o'r llywodraeth i greu Difference Engine No. 1, peiriant 25,000 o ddarnau ac yn pwysau 15t. Ond roedd problemau a dadlau, a dechreuodd e weithio ar Difference Engine No. 2 heb orffen rhif 1. Collodd y llywodraeth hyder a derbynnodd e ddim byd mwy o arian, felly chafodd rhif 2 ddim ei adeiladu (tan 1991, mwy na chanrif ar ôl ei farwolaeth, pan adeiladdodd yr Amgueddfa Gwyddoniaeth un newydd yn defnyddio cynlluniau gwreiddiol Babbage). Ond oedd prosiect newydd gyda fe, yr Analytical Engine. Y gwahaniaeth bwysig y tro yma oedd punch cards er mwyn rhaglenni y peiriant. Fel arfer - stori bywyd Babbage - cafodd e erioed ei adeiladu.

Yn ogystal â'r cyfrifiaduron mecanaidd, roedd diddordeb gyd Babbage mewn seiffrau ac yn ystod y rhyfel Crimea, llwyddod e dorri y Vigenère Cypher. Mae'n debyg iawn i Alan Turing, athrolith 20fed canrif, oedd yn torri Enigma a chreuodd syniadau y cyfrifiadur modern.

Ymgyrchydd oedd e hefyd, yn erbyn cerddoriaeth y stryd, hoop rolling a pobl meddw sy'n torri ffenestri. Charles Babbage, peiriannydd, mathemategydd, athrolith a phoen yn y pen-ôl.

Cafodd e dipyn o sidekick - Augusta Ada King, Countess of Lovelace, sy'n cael ei nabod fel Ada Lovelace, arwres annhebygol a'r rhaglennydd gyntaf.

Ganwyd Ada ym 1815, plentyn yr Arglwydd Byron, y bardd enwog. Gwahanodd Byron a'i wraig mis yn hwyrach a welodd e erioed ei ferch eto. Hyrwyddodd mam Ada ddiddordeb mewn mathemateg er mwyn osgoi'r gwallgof ei thad y bardd, ac fel oedolyn gweithiodd Ada gyda Babbage.

Cwrddodd y ddau trwy eu ffrind Mary Somerville, mathemategydd hefyd. Dangosodd Babbage iddi'r prototype o'r Difference Engine a chafodd hi ei bachu. Ysgrifennodd hi erthygl yn cynnwys set o nodiadau oedd yn esbonio'r Analytical Engine, a hefyd algorithm i gyfri rhifau Bernoulli, y rhaglen gyfrifiadur cyntaf. Ni chafodd y rhaglen ei phrofi achos cafodd y peiriant erioed ei adeiladu, ond byddai hi wedi gweithio yn ôl dadansoddwyr.

Buodd hi farw yn 36 oed o gancr, ond dyn ni'n ei chofio hi mewn nifer o ffyrdd. Cafodd yr iaith rhaglenni Ada ei henwi mewn anrhydedd iddi. Pan sefydlodd Limor Fried, peiriannwraig electroneg, ei chwmni Adafruit Industries roedd hi'n defnyddio'r llysenw ladyada, i gofio ei harwres.

Wel, diddorol iawn ond ble mae'r hwyl? Ffeindiais i safle wefan Sydney Padua, arlunydd disgleirio ac awdur y Steampunk nofel graffeg, The Thrilling Adventures of Lovelace and Babbage. Gwaith arbennig yw hynny, yn ddoniol ac yn ddiddorol. A dyna ble ffeindiais i gysylltiad i Gymru.

Clywodd Ada y telynor John Thomas pan oedd e'n 12 oed ac yn canu'r delyn deires. Adnabyddodd hi ei dalent a chynigodd hi dali am dri chwarter ei addysg yn Academi Frenhinol Cerddoriaeth yn Llundain.

Felly, dyna ni: Ada Lovelace, arloeswraig gyfrifiadur, cefnogwraig diwylliant Cymreig ac arwres gyffredinol ei hoes.

03/05/2015

Haerllugrwydd y Democratiaid Seisnig

Cawson ni air newydd yn y dosbarth - haerllug - felly roedd rhaid i fi ei ddefnyddio rhywsut. Cyfle perffaith ... derbynon ni daflen etholiad o'r Democratiaid Seisnig yr wythnos hon, gydag un polisi yn unig - symud Sir Fynwy nôl i Loegr. Yn ei ôl nhw symudwyd Sir Fynwy o Loegr i Gymru yn 1974 ac maen nhw'n ymgyrchu am refferendwm ar statws y sir.

Dw i wedi clywed am yr anhrefn am statws y sir, ond beth yw'r hanes? Yn ôl fy ffrind Wikipedia roedd Sir Fynwy yn bendant yn rhan o Gymru tan yr 16eg canrif. Yn 1535 dangosodd y ddeddf taw "in the country or dominion of Wales" yw Sir Fynwy. Ond yn 1542 rhifwyd 12 sir o Gymru yn y ddeddf a chafodd Sir Fynwy ei gadael allan o'r rhestr. Riportiodd y sir yn uniongyrchol i San Steffan yn lle'r llys mawr Cymru. Ond yn ôl ysgrifenwyr o'r cyfnod cafodd y sir ei ystyried fel rhan o Gymru. Yn yr eglwys cafodd rhan fwyaf yr ardal ei chynnwys mewn esgobaeth Llandaf.

Yn 17eg canrif cafodd llys Sir Fynwy ei gynnwys mewn cylchdaith Rhydychen yn lle cylchdaith De Cymru ac ar ôl hynny cafodd y sir ei ystyried fel rhan o Loegr yn y gyfundrefn cyfraith. Ond lle roedd cyfreithiau gwahanol yng Nghymru, fel arfer cafodd Sir Fynwy ei enwi hefyd - Wales and Monmouthshire. Doedd dim ots gyda'r bobl achos doedd dim llawer o effaith arnyn nhw. Ysgrifennodd George Borrow yn 1862:
Monmouthshire is at present considered an English county, though certainly with little reason, for it not only stands on the western side of the Wye, but the names of almost all its parishes are Welsh, and many thousands of its population still speak the Welsh language.
Yn yr 20fed canrif daeth cenedlaetholdeb yn uwch ar yr agenda ac achosodd statws y sir fwy o broblemau. Ar y diwedd yn 1972 pasiwyd deddf newydd i sicrhau bod Sir Fynwy yn rhan o Gymru, yn effeithiol o 1974.

Mae'r Democratiaid Seisnig yn protestio'r penderfyniad ac yn galw am refferendwm. Nid am Sir Fynwy modern maen nhw'n siarad ond am yr hen sir hanesyddol yn cynnwys Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a dwyrain Caerdydd a Caerffili. Ar eich beiciau, Democratiaid Selsig!

Ro'n i'n trafod y peth gyda Meic yn Noson Cyri yng Nghendl. Penderfynon ni am brawf o Gymreictod: os oes enw Cymraeg mae'r lle'n rhan o Gymru. Y Fenni: rhan o Gymru, Cwmbrân: rhan o Gymru, Trefynwy: rhan o Gymru.

Ond mae'r ymerodraeth yn ychwanegu nawr. Bryste, Llundain, Efrog Newydd ... all your base are belong to us.