Ymwelais i ag Eisteddfod yr Urdd dros yr hanner tymor eleni. Ro'n ni'n arfer mynd yn flynyddol pan oedd y plant yn iau ond dw i ddim wedi bod yna ers sbel. Profiad gwych oedd e, a dw i'n argymell ymweliad os oes modd i chi yn y dyfodol.
Mae'r Eisteddfod yn beth unigryw i Gymru a does dim byd yn debyg yn Lloegr i'w chymharu. Lle i ddathlu diwylliant Cymreig; lle mae'r famiaith yn cael ei siarad ymhobman; lle mae'r plant yn siarad yn gyffrous ar y maes ar ddiwrnod allan gyda'u ffrindiau; efallai jyst lle i ddathlu bod yn Gymro.
Aeth cystadlu mewn ysgolion allan o ffasiwn am sbel. Pan mae rhywun yn ennill, mae rhywun arall yn colli, a ddylai plant byth golli rhag ofn bod nhw'n dod yn ddigalon, meddai rhai. Sothach! Mae bywyd ei hunan yn gystadleuaeth ac mae'n rhaid i bawb ymdopi gyda'r ffaith 'na.
Mae rhai o'r cystadlaethau unigol angen safonau uchel dros ben er mwyn cyrraedd y llwyfan. Edrychwch ar yr unawd piano, neu linynnol eleni ar S4C Clic i weld y dalent anghredadwy o blant yng Nghymru. Ond mae lot o gystadlaethau yn angen rhywbeth gwahanol. Gyda grŵp llefaru, corau, cân actol, dawnsio gwerin ayyb, y peth pwysicaf yw gweithio fel tîm, dilyn yr arweinydd, canolbwyntio a chwarae'ch rhan. Dyna sgiliau pwysig i bawb yn y byd real. A does dim rhaid bod yn gantor gwych, yn ddawnsiwr arbennig, yn beldroediwr medrus neu'n athrylith fathemategol. Mae pawb yn gallu cymryd rhan, nid y mwyaf galluog yn unig.
Mae llawer o hwyl mewn cymryd rhan, mewn paratoi, mewn gweithio'n galed ar rywbeth. Mae ennill yn bwysig ond mae ceisio yn bwysicach. Os dych chi ddim yn ennill, wel dim ots. Mae angen i ni i gyd dysgu sut i geisio, eto ac eto, achos dyw bywyd ddim yn un gyfres hir o lwyddiannau. Wel nid i fi ac nid i unrhyw un dw i'n nabod.
Weithiau pan dw i wedi cael llond bol o fywyd ac yn teimlo'n flinedig, dw i'n edrych at y plant 'ma ac mae'r brwdfrydedd yn fy ysbrydoli fi unwaith eto. Daliwch ati, blant! Chi yw gobaith Cymru.
No comments:
Post a Comment