Dechreuais i sgwennu'r post hwn nôl ym mis Awst ar ôl i ni ddychwelyd o'n gwyliau ar Ynys Môn. Ro'n ni'n agos i un o fy hoff ardaloedd ym Mhrydain, yr Eryri. Mae tair blynedd ers i mi gael problemau fy nghoesau a dw i'n colli'r mynyddoedd a'r awyr agored. Gyrron ni lan Bwlch Llanberis i Ben y Pas un noswaith braf er mwyn cerdded rhyw 50 metr o'r Pyg Track.
Mae rhywbeth arbennig, unigryw am awyrgylch y mynyddoedd. Hyd yn oed heblaw edrych, mae'r seiniau ac yr aroglau'n wahanol. 20 metr o'r maes parcio mae sŵn dynoliaeth yn diflannu ac mae'r llonyddwch yn dychwelyd. Llonyddwch, nid tawelwch. Mae'r defaid yn galw at ei gilydd, adleisio o'r garreg galed. Y gwynt yn sibrwd trwy'r grug a'r eithin. Adar bychain yn hedfan yn ddistaw rownd frig o gerrig ochr arall y cwm.
Mae grŵp o gerddwr yn dod heibio, siarad am eu diwrnod, edrych ymlaen at baned ar ôl diwrnod hir. Ond mewn eiliadau maen nhw'n pasio, eu lleisiau ar goll yn yr awyr agored. Wrth eistedd ar garreg, sylwaf unwaith eto'r manylion bychain - y blodau bychain yn cysgodi o'r gwynt, mynyddoedd a bylchau, haenau o borffor-llwyd yn pylu yn y pellter, y borfa torrwyd yn fyr gan y defaid.
Mae copa Crib Goch yn fy ngalw ata i ond bydd rhaid iddi aros am ddiwrnod arall.
No comments:
Post a Comment