03/05/2015

Haerllugrwydd y Democratiaid Seisnig

Cawson ni air newydd yn y dosbarth - haerllug - felly roedd rhaid i fi ei ddefnyddio rhywsut. Cyfle perffaith ... derbynon ni daflen etholiad o'r Democratiaid Seisnig yr wythnos hon, gydag un polisi yn unig - symud Sir Fynwy nôl i Loegr. Yn ei ôl nhw symudwyd Sir Fynwy o Loegr i Gymru yn 1974 ac maen nhw'n ymgyrchu am refferendwm ar statws y sir.

Dw i wedi clywed am yr anhrefn am statws y sir, ond beth yw'r hanes? Yn ôl fy ffrind Wikipedia roedd Sir Fynwy yn bendant yn rhan o Gymru tan yr 16eg canrif. Yn 1535 dangosodd y ddeddf taw "in the country or dominion of Wales" yw Sir Fynwy. Ond yn 1542 rhifwyd 12 sir o Gymru yn y ddeddf a chafodd Sir Fynwy ei gadael allan o'r rhestr. Riportiodd y sir yn uniongyrchol i San Steffan yn lle'r llys mawr Cymru. Ond yn ôl ysgrifenwyr o'r cyfnod cafodd y sir ei ystyried fel rhan o Gymru. Yn yr eglwys cafodd rhan fwyaf yr ardal ei chynnwys mewn esgobaeth Llandaf.

Yn 17eg canrif cafodd llys Sir Fynwy ei gynnwys mewn cylchdaith Rhydychen yn lle cylchdaith De Cymru ac ar ôl hynny cafodd y sir ei ystyried fel rhan o Loegr yn y gyfundrefn cyfraith. Ond lle roedd cyfreithiau gwahanol yng Nghymru, fel arfer cafodd Sir Fynwy ei enwi hefyd - Wales and Monmouthshire. Doedd dim ots gyda'r bobl achos doedd dim llawer o effaith arnyn nhw. Ysgrifennodd George Borrow yn 1862:
Monmouthshire is at present considered an English county, though certainly with little reason, for it not only stands on the western side of the Wye, but the names of almost all its parishes are Welsh, and many thousands of its population still speak the Welsh language.
Yn yr 20fed canrif daeth cenedlaetholdeb yn uwch ar yr agenda ac achosodd statws y sir fwy o broblemau. Ar y diwedd yn 1972 pasiwyd deddf newydd i sicrhau bod Sir Fynwy yn rhan o Gymru, yn effeithiol o 1974.

Mae'r Democratiaid Seisnig yn protestio'r penderfyniad ac yn galw am refferendwm. Nid am Sir Fynwy modern maen nhw'n siarad ond am yr hen sir hanesyddol yn cynnwys Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a dwyrain Caerdydd a Caerffili. Ar eich beiciau, Democratiaid Selsig!

Ro'n i'n trafod y peth gyda Meic yn Noson Cyri yng Nghendl. Penderfynon ni am brawf o Gymreictod: os oes enw Cymraeg mae'r lle'n rhan o Gymru. Y Fenni: rhan o Gymru, Cwmbrân: rhan o Gymru, Trefynwy: rhan o Gymru.

Ond mae'r ymerodraeth yn ychwanegu nawr. Bryste, Llundain, Efrog Newydd ... all your base are belong to us.

1 comment:

  1. ...A phaid ac anghofio Aberdyn yn yr ymerodraeth. Ein heiddo ni yw olew Mor y Gogledd

    Mae Arglwyddes Llanofer yn troi yn ei bedd!

    Y cwestiwn sydd gen i yw pwy sy'n rhoi cefnogaeth ariannol i'r 'Jokers' ma. Dylen nhw hela'r arian i Nepal!

    ReplyDelete