Gwleidyddiaeth Gymraeg, nofelau Cymraeg, hanes Cymraeg. Ble mae'r wyddoniaeth, ble mae'r beiriannaeth? Dw i angen arwr (ac arwres)!
Dyna ni, mathemategydd, peiriannydd ac athrolith Fictoriaidd Charles Babbage, creadwr y cyfrifiadur mechanaidd cyntaf.
Roedd Babbage yn gymeriad diddorol. Yn ei amser sbar roedd e'n arfer darllen log tables
er mwyn siecio eu cywirdeb (trist) ac roedd e'n grac iawn achos y
camgymeriadau. Penderfynnodd e greu peiriant i gyfrifo'r rhifau yn lle
defnyddio pensil a phapur. Derbynnodd e £17,000 o'r llywodraeth i greu Difference Engine No. 1, peiriant 25,000 o ddarnau ac yn pwysau 15t. Ond roedd problemau a dadlau, a dechreuodd e weithio ar Difference Engine No. 2
heb orffen rhif 1. Collodd y llywodraeth hyder a derbynnodd e ddim byd
mwy o arian, felly chafodd rhif 2 ddim ei adeiladu (tan 1991, mwy na
chanrif ar ôl ei farwolaeth, pan adeiladdodd yr Amgueddfa Gwyddoniaeth
un newydd yn defnyddio cynlluniau gwreiddiol Babbage). Ond oedd prosiect
newydd gyda fe, yr Analytical Engine. Y gwahaniaeth bwysig y tro yma oedd punch cards er mwyn rhaglenni y peiriant. Fel arfer - stori bywyd Babbage - cafodd e erioed ei adeiladu.
Yn
ogystal â'r cyfrifiaduron mecanaidd, roedd diddordeb gyd Babbage mewn
seiffrau ac yn ystod y rhyfel Crimea, llwyddod e dorri y Vigenère Cypher. Mae'n debyg iawn i Alan Turing, athrolith 20fed canrif, oedd yn torri Enigma a chreuodd syniadau y cyfrifiadur modern.
Ymgyrchydd
oedd e hefyd, yn erbyn cerddoriaeth y stryd, hoop rolling a pobl meddw
sy'n torri ffenestri. Charles Babbage, peiriannydd, mathemategydd,
athrolith a phoen yn y pen-ôl.
Cafodd e dipyn o sidekick - Augusta Ada King, Countess of Lovelace, sy'n cael ei nabod fel Ada Lovelace, arwres annhebygol a'r rhaglennydd gyntaf.
Ganwyd Ada ym 1815, plentyn yr Arglwydd Byron, y bardd enwog. Gwahanodd Byron a'i wraig mis yn hwyrach a welodd e erioed ei ferch eto. Hyrwyddodd mam Ada ddiddordeb mewn mathemateg er mwyn osgoi'r gwallgof ei thad y bardd, ac fel oedolyn gweithiodd Ada gyda Babbage.
Cwrddodd y ddau trwy eu ffrind Mary Somerville, mathemategydd hefyd. Dangosodd Babbage iddi'r prototype o'r Difference Engine a chafodd hi ei bachu. Ysgrifennodd hi erthygl yn cynnwys set o nodiadau oedd yn esbonio'r Analytical Engine, a hefyd algorithm i gyfri rhifau Bernoulli, y rhaglen gyfrifiadur cyntaf. Ni chafodd y rhaglen ei phrofi achos cafodd y peiriant erioed ei adeiladu, ond byddai hi wedi gweithio yn ôl dadansoddwyr.
Buodd hi farw yn 36 oed o gancr, ond dyn ni'n ei chofio hi mewn nifer o ffyrdd. Cafodd yr iaith rhaglenni Ada ei henwi mewn anrhydedd iddi. Pan sefydlodd Limor Fried, peiriannwraig electroneg, ei chwmni Adafruit Industries roedd hi'n defnyddio'r llysenw ladyada, i gofio ei harwres.
Wel, diddorol iawn ond ble mae'r hwyl? Ffeindiais i safle wefan Sydney Padua, arlunydd disgleirio ac awdur y Steampunk nofel graffeg, The Thrilling Adventures of Lovelace and Babbage. Gwaith arbennig yw hynny, yn ddoniol ac yn ddiddorol. A dyna ble ffeindiais i gysylltiad i Gymru.
Clywodd Ada y telynor John Thomas pan oedd e'n 12 oed ac yn canu'r delyn deires. Adnabyddodd hi ei dalent a chynigodd hi dali am dri chwarter ei addysg yn Academi Frenhinol Cerddoriaeth yn Llundain.
Felly, dyna ni: Ada Lovelace, arloeswraig gyfrifiadur, cefnogwraig diwylliant Cymreig ac arwres gyffredinol ei hoes.
No comments:
Post a Comment