02/06/2015

Caneuon Cymraeg ar y Maes

Roedd y gantores Kizzy Crawford yn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cafodd hi ei bwcio i berfformio yn sioe'r noswaith ond roedd hi ar y maes trwy'r dydd. Roedd hi'n canu tu allan i babell S4C pan welais i hi'n gyntaf. Doedd dim llawer o bobl yn aros i'w wylio yn anffodus ond canodd hi set o'i chaneuon ei hun, dim ond hi a'i gitâr.

A dyna sut mae hi'n perfformio fel arfer. Weithiau mae band gyda hi, ond ar lwyfan Glastonbury y llynedd perfformiodd hi ar ei phen ei hunan gyda gitâr a looper, ffaith yn fwy hynod achos dim ond 17 oed oedd hi ar y pryd.

Dw i'n dwlu ar weld sgiliau o gerddorion ardderchog. Yn ogystal â'i llais gwych mae hi'n gitarydd galluog sy'n defnyddio amrywiaeth o dechnegau ar y gitâr i gael seiniau gwahanol, ac yn adeiladu haenau o sain gyda'r looper. Mae'r clip 'ma'n dangos y canlyniadau, recordiwyd yn fyw.


Mae mwy o dracs ar gael am ddim ar SoundCloud gyda'i band. Dw i'n argymell Brown Euraidd gyda dylanwadau Jazz ac Enaid.

No comments:

Post a Comment