11/02/2015

Problemau'r Byd Cyntaf

Roedd 'ngwraig yn gweithio ar y cyfrifiadur neithiwr ac yn sydyn clywais i ebychiad "O ... ymmm ... help!". Roedd hi wedi defnyddio rhyw gyfuniad bysell (key combination) hudol, cyfrinachol ar y bysellfwrdd ac roedd y sgrin wedi troi 90 gradd.
Doedd dim syniad gyda hi neu gyda fi beth oedd y bysell hudol, felly roedd rhaid i ni fynd i'r tudalen settings. Symudwch y pwyntydd i'r cornel de uchaf i ffeindio'r Charms Bar. Ond nawr mae'r cornel de isaf.  A dyw'r pad llygoden ddim wedi troi o gwbl. Symud y llygoden i fyny - pwyntydd yn symud i'r dde.

Ar ôl rhai munud gyda'r ddau ohonon ni'n cael cric yn y gwddf a phoen yn y pen ôl cafodd normalrwydd ei adfer.

Yn ôl fy mab [Ctrl-Alt-Up] yw'r ateb. Roedd e'n arfer defnyddio hynny trwy'r amser i drolio ei ffrindiau yn yr ysgol.

No comments:

Post a Comment