Mae lot o droeon yn y plot ac mae'r stori yn cadw'r sylw tan y tudalen olaf. Mae digon o hiwmor a digon o dywyllwch hefyd.
Mae'r nofel yn addas i ddysgwyr uwch, yn enwedig i ni yn y De, achos mae hi'n defnyddio iaith a thafodiaith Caerdydd, ac mae'n iaith fodern a dim rhy lenyddol. Mae rhai o'r Cymry yn y nofel yn stryglo gyda'r iaith hefyd:
"... gofynnwch iddo fy ffonio cyn gynted â bo modd ..."Dw i'n argymell y nofel yn uchel. Mae hi ar gael o Amazon mewn print neu i Kindle, ac o safle'r Lolfa. Dych chi'n gallu llawrlwytho'r hen bapur arholiad sy'n cynnwys y darn o safle CBAC i gael blas o'r nofel.
"Cyn gynted â bo beth, luv?"
"ASAP."
"O, iawn, dim probs."
Bydda i'n prynu un arall gan Llwyd Owen yn fuan.
No comments:
Post a Comment