08/02/2015

Memrise - Magu Cof, Magu Hyder

Mae Memrise yn safle wefan ddefnyddiol iawn, ffordd o ddysgu geirfa newydd. Doedd amau gyda fi i ddechrau ond ar ôl mis dw i'n gallu dweud fod hi'n help mawr i fi gofio geirfa'r cwrs.

Pan ddych chi'n dechrau gyda Memrise, y ffordd gorau yw defnyddio sy wedi cael ei baratoi yn barod. A diolch i Debs, sy wedi mewnbynnu'r holl eirfa o bob un o'r unedau yng nghwrs Uwch 4, mae cwrs perffaith i ni yn y dosbarth. Chwilio am Welsh Uwch 4.

Pan ddych chi'n dechrau ar lefel newydd mae'r safle yn dangos tua 4 geiriau newydd, wedyn dych chi'n eu hadolygu nhw'n syth trwy ddewis o restr (multiple choice). Ar ôl ddysgu sawl grŵp o eiriau mae'r adolygiad yn newid - mae'n rhaid i chi deipio'r geiriau i mewn. Mae'r safle yn cofio pa eiriau sy'n achosi helynt i chi ac yn eu dangos nhw i chi yn fwy aml. Ar ôl dysgu gair mae'r adolygiadau'n dod yn llai aml.

Cyn defnyddio'r safle baswn i'n cofio'r geiriau am sawl diwrnod ond heb adolygu maen nhw'n diflannu'n gyflym. Bellach mae'r cyfrifiadur yn dewis geiriau i fi adolygu. Mae'r gyfundrefn yn gweithio (i fi) yn dda iawn ac mae'n brin i fi anghofio gair yn llwyr nawr. Weithiau mae camgymeriad bach mewn sillafu, ond dim ots.

Dyw hi ddim yn berffaith. Fydd y cyfrifiadur ddim yn derbyn y gair os mae gwahaniaeth bach, e.e. os mae'r gair yn cael ei ysgrifennu fel Rhyfeddu (at) fydd e ddim yn derbyn Rhyfeddu at heblaw'r cromfachau.

Mae'r adolygu yn canolbwyntio ar ddangos y gair Saesneg ac yn gofyn i'r gair Cymraeg. Pan ddych chi'n siarad neu ysgrifennu dyna'r peth gorau. Ond pan ydw i'n darllen Cymraeg, dw i'n gweld gair Cymraeg, dw i'n gwybod dw i wedi ei ddysgu fe, ond mae cysylltiad unffordd yn fy meddwl.

Dw i'n argymell y safle achos dw i ddim wedi ffeindio ffordd well i ddysgu geirfa.

No comments:

Post a Comment