08/03/2015

Adloniant Ddydd Gŵyl Dewi

Ymunais i Gyfeillion Y Fenni eleni am eu cinio blynyddol yng Nghlwb Golff Sir Fynwy. Achlysur hyfryd oedd hi: 68 o bobl dw i'n meddwl, pawb yn siarad Cymraeg a bwyd gwych.

Ond yr uchafbwynt i fi oedd yr adloniant ar ôl cinio. Daeth y delynores Bethan Nia i berfformio nifer o ganeuon gwerin. Roedd llawer o'r caneuon yn gyfarwydd iawn achos mae pawb yn canu Ar Lan y Môr, Bugeilio'r Gwenith Gwyn, Ym Mhontypridd ayyb. Ond nid trefniannau traddodiadol oedd yr hyn i gyd. Mae Bethan yn cyfansoddi ei threfniannau ei hun ac maen nhw'n swnio'n fwy ffres. Dw i'n ffan o'r grŵp werin Alaw ac mae'r un sŵn gyda nhw, gyda cross rhythms a weithiau tipyn o dywyllwch.

Roedd John Thomas, telynor i'r Frenhines Fictoria, yn gyfrifol am lawer o'r trefniannau dyn ni'n clywed heddiw. Maen nhw'n gymhleth ac yn blodeuog, bwriedir i ddangos sgil o'r canwr, ac maen nhw'n hyfryd. Ond gyda'r trefniannau hyn dw i'n meddwl bod ni'n dychwelyd i galon y gerddoriaeth.

Os oes cyfle i chi glywed Bethan, neu Alaw, dw i'n gallu argymell y ddau yn uchel.

No comments:

Post a Comment