31/01/2015

Arholiadur

Dw i'n ymwybodol bod rhai yn ein dosbarth yn gofyn yr un cwestiwn o'n i'n gofyn blwyddyn yn ôl - dylwn i sefyll yr arholiad? Neu pam ddylwn i sefyll yr arholiad? Ro'n i eisoes wedi sefyll arholiad mynediad, sylfaen, canolradd ond roedd y cam nesaf yn un fwy ac i ddechrau ro'n i'n anfodlon. Penderfynais i fynd ati yn y diwedd ac mae'r post hwn yn siarad am y profiad.

Yn gyntaf ro'n i'n poeni am y ffolio. Dyna'r cam mawr yn arholiad uwch sy ddim yn bodoli yn y lefelau is. Un o'r opsiynau roedd rhaid i fi ddewis oedd project llenyddol, ac yn yr ysgol ro'n i'n casáu'r gwersi Saesneg, dadansoddi llyfrau a barddoniaeth.

Roedd yr ail beth yn syml: does dim angen i fi sefyll yr arholiad er mwyn cael swydd neu un rhywbeth arall. Pam ddioddef y straen?

Wel weithiau mae angen i fi gael tipyn o straen, tipyn o her, rhywbeth sy'n fy ngorfodi i i wneud rhywbeth gwahanol er mwyn gwella. Do'n i'n gwybod dim byd am lenyddiaeth Cymraeg, a dweud y gwir, ond dyn nhw ddim yn edrych am erthygl ysgolheigaidd, dim ond eich bod chi'n gwneud gwerthfawrogiad o'r darnau ac yn cyfathrebu amdanyn nhw.

Felly, pa brofion sydd yna?
  1. Gwrando, gwylio a deall. Dyna beth dyn ni'n neud yn y dosbarth. Bron bob tro bydd a darn gwrando a deall yn dod o episod Beti a'i phobol ble mae Beti George yn cael cyfweliad gyda rhywun. Fel arfer mae'r sgwrs yn glir. Dych chi'n gallu gwrando ar lawer o episodau o'r rhaglen ar safle Radio Cymru. Ro'n i'n poeni lot am y prawf hwn ond ar ôl gwrando ar sawl episod aeth pethau yn well.
  2. Siarad (Prawf Llafar). Dim ond sgwrsio gydag arholwr ac i fod yn onest taswn i'n gallu gwneud hynny, basai un rhywun achos dw i ddim yn sgwrsio yn hyderus hyd yn oed yn Saesneg. Mae'n rhaid i chi ddarllen dau lyfr o restr ac yna yn sgwrsio amdanyn nhw hefyd.
  3. Ffolio. Gwaith byddwch chi wedi paratoi erbyn diwedd mis Ebrill. Pedwar traethawd tua tudalen yr un, a sgwrs gyffredinol ar dâp. Hefyd, naill ai Y Project Ymarferol neu Y Project Llenyddol. Mwy am hynny wedyn.
  4. Darllen a deall. Ar ôl ddarllen Craciau, Noson yr Heliwr a Rhwng Edafedd yn y dosbarth bydd y darnau yma'n easy peasy.
  5. Ysgrifennu. Mae'n rhaid ysgrifennu'n fwy ffurfiol, ond bydd y traethodau yn help mawr.
Os oes modd i chi gwneud y project ymarferol baswn i'n dweud bod lot haws. Dych chi'n gweithio am 20 awr mewn sefyllfa lle mae pobl yn siarad Cymraeg. Mewn ysgol, mewn meithrin, grŵp Cymraeg, siop Cymraeg, ayyb. Wedyn ysgrifennu tudalen neu ddau am y profiad a recordio sgwrs am y profiad. Os dych chi yn gweithio'n well gyda phobl eraill, dyna chi.

Doedd dim cyfle i fi wneud hynny (yn enwedig achos mod i'n rhy hwyr i ddechrau) felly dewisais i'r Project Llenyddol. Rhan un yw gwylio drama Cymraeg, neu ffilm hir Cymraeg, ysgrifennu adolygiad (hanner tudalen) a recordio sgwrs 15 munud ar dâp. Mae lot o eiriau yn 15 munud, felly roedd rhaid i fi baratoi yn fanwl. Mae'r ffilmiau ar gael ar DVD ond gwyliais i Hedd Wyn ar youtube.

Rhan dau yw traethawd ar bedair cerdd. Dewisais i'r grŵp ar y thema Rhyfel achos roedd cysylltiad gyda'r ffilm. Pan ddechreuais i edrych ar y cerddi ro'n i mewn panig achos deallais i ddim byd. Ond ar ôl dipyn o waith dechreuodd pethau gwympo mewn lle. Dysgais i dipyn am gynghanedd ac englyn, ffurfiau sy'n unigryw i farddoniaeth Cymraeg. Dechreuais i fwynhau pwnc o'n i'n arfer casáu yn yr ysgol. Wel tipyn bach.

Roedd llawer o waith yn y ffolio, ond roedd e'n werthfawr dros ben er mwyn gwella safon fy Nghymraeg a hefyd codi diddordeb mewn diwylliant Cymraeg. Roedd fy Mam yn arfer dweud
Mwy dych chi'n rhoi i fywyd, mwy dych chi'n derbyn
Mae hynny yn wir.

29/01/2015

Gwaith / Cartref Cyfres 5

Dechreuodd y gyfres newydd o'r ddrama boblogaidd ar 18 Ionawr. Mae'r episod cyntaf ar gael ar S4C Clic ac yn dod i ben ar 15 Chwefror.

Tasech chi ddim wedi gweld y rhaglen hon eisoes byddai'n werth ei thrio. Mae'n stori am athrawon a disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Taf, yn eu gwaith ac yn y cartref. Tipyn bach fel Waterloo Road ond mae mwy o hiwmor a dyw'r sioe ddim yn cymryd ei hunan mor ddifrifol.

26/01/2015

Acen y Dysgwr

Pan dyn ni'n meddwl am y Beibl Cymraeg yr enw enwocaf dyn ni'n cofio yw William Morgan. Cyfieithodd e'r Beibl cyfan i'r Gymraeg a chyhoeddwyd ei Feibl ym 1588. Ym 1988 cynhyrchwyd set o stampiau gan y Swyddfa Bost i gofio'r gwaith. Mae First Day Cover gyda'ng wraig, anfonwyd iddi gan ei thad. Roedd stamp William Morgan ei hunan yn werth 18c ond roedd un o'i gydweithwyr, William Salesbury yn werth 26c.

Cafodd y Testament Newydd ei gyfieithu yn gyntaf ac Salesbury oedd y prif gyfieithydd. Cyhoeddwyd ei waith yn gyntaf ym 1567. Roedd Salesbury yn ysgolhaig disglair a gwnaeth e gyfieithiad ardderchog y Testament Newydd yn ogystal â chynhyrchu geiriadur Saesneg-Cymraeg a hefyd disgrifiad seiniau'r iaith Cymraeg (A briefe and a playne introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong).

Ond roedd gyda fe syniad yn ei ben sy'n ein heffeithio ni yn yr iaith Cymraeg erbyn heddiw. Er mwyn safoni'r iaith i'w gwneud hi'n fwy derbyniol i ysgolheigion eraill, ceisiodd e Ladineiddio hi, hynny yw, gwneud rhai geiriau Cymraeg yn edrych fel geiriau Lladin. Ysgrifennodd e Eccles yn lle Eglwys a Discipulon yn lle Disgyblion. Dyw'r ffurfiau hyn ddim wedi goroesi erbyn heddiw ond mae un sy wedi sticio. Heddiw dyn ni i gyd yn ysgrifennu ei (yn debyg i'r Lladin eius) ond dyn ni'n dweud i.

Ysgrifennodd Gareth King hynny yn y Modern Welsh Dictionary:
In all its uses, ei sounds in normal speech (and always has) as if spelt i - the spelling is an artificial one based on mistaken etymology. Pronouncing it as written sounds affected to most native speakers.
Ond beth ydyn ni dysgwyr yn dweud fel arfer? ei wrth gwrs, neu ai. Pan dyn ni'n dechrau mewn dosbarth Cymraeg, dyn ni'n dysgu bod y Gymraeg yn cael ei hysgrifennu yn ffonetig. Easy peasy bob tro, popeth yn rheolaidd. Wel o'i chymharu â Saesneg, sy'n hollol wallgof, mae hynny yn wir wrth gwrs, ond mae tipyn bach o afreolaidd amdani.

Gaeaf, cynhaeaf, amaethwr, gwasanaethau ... ym mhob un dylai ae yn cael ei ynganu fel ei. Sa i'n siŵr pam, ond rheol anffurfiol Simon (no money back, no guarantee) yw
ae in the penultimate syllable is pronounced as ei
Does dim problem gyda (geiriau) bod yn afreolaidd ond yn aml, dyn ni'n edrych ar y sillafiad yn unig a dyn ni ddim yn sylwi'r gwahaniaeth gyda'n clustiau. Ar ôl tua 10 mlynedd o ddysgu Cymraeg mae'n rhaid i fi geisio newid sut dw i'n ynganu rhai geiriau cyfarwydd iawn er mwyn sbico better Welsh.

23/01/2015

Technoleg i'r Adwy

Y tro diweddaf soniais i am Ap Geiriaduron, offeryn defnyddiol iawn i gadw ar eich ffôn symudol (er gwaetha fy nghwynion). Clywais i ddoe am wasanaeth ar-lein i gywiro sillafu a gramadeg Cymraeg, Cysill Ar-lein. Mae'r safle hwn yn dod o Brifysgol Bangor hefyd ac mae e'n ar gael am ddim. Teipiwch (neu ludo) eich testun yn y bwlch a chlicio ar Wirio. Bydd e'n dangos y camsillafiadau ac yn awgrymu geiriau eraill, a bydd e'n dangos camgymeriadau gramadegol a chamdreigladau ac yn esbonio'r reswm ac awgrymu'r ffurf cywir.

Gwaith cartref Cymraeg? Dim problem. Sgwennwch draethawd yn Saesneg, Google Translate, Cysill Ar-lein a dyna chi - traethawd llenyddol fel un gan Kate Roberts. Wel nid cweit. Fel pob spellcheck does dim syniad gyda fe am yr ystyr. Sothach yw sothach, hyd yn oed sothach cywir. Ond mae e'n ddefnyddiol iawn, yn enwedig i gywiro'r blog hwn.

Wrth siarad am sothach, mae Microsoft Word yn un da i drosglwyddo Cymraeg da i Wenglish wedi manglo gan droi 'i' → 'I' a 'iawn' → 'yawn' ayyb. Fel arfer mae e'n neud hynny yn dawel a dw i ddim yn sylweddoli tan y diwedd - Be'? Ysgrifennais i mo hynny! Wrth gwrs dych chi'n gallu troi'r spellcheck off yn yr opsiynau ond mae e'n off mewn dogfennau Saesneg hefyd wedyn. Y tric yw gwahanu iaith y ddogfen. Ewch i Review ar y rhuban ac wedyn Language, Set proofing language a dewiswch Welsh (neu Do not check spelling and grammar).

Yn anffodus does dim esgus gyda fi bellach am gamdreiglo mor aml.

17/01/2015

Iaith y Tŷ Bach

Derbyniais i Kindle dros y Nadolig - bachgen da o'n i y llynedd - a dw i wedi prynu fy llyfr Cymraeg cyntaf ar ei gyfer, Mr Blaidd gan Llwyd Owen. Cafodd rhan o'r stori 'ma ei ddefnyddio ym mhrawf darllen a deall arholiad Uwch 2014 ac edrychodd e'n ddiddorol. Stori ditectif yw hwn sy'n sôn am bethau tywyll; stori am lofruddiaeth, puteiniaid, treiswyr ayyb. Ond mae llawer o hiwmor hefyd mewn bywyd yr hen dditectif sy'n breuddwydio am fyw yn Sbaen ar ôl iddo fe ymddeol, gyda chymaint o ferched ifanc sy'n ei ffansio fe.

Dw i wedi prynu ffôn symudol newydd hefyd ar ôl i fi golli amynedd gyda'r un hen, araf ... buffering ... araf. Ac, we-hei! mae digon o le i mi lawrlwytho Ap Geiriaduron bellach, geiriadur swyddogol, parchus o brifysgol Bangor, sy'n addas i iPhone ac Android. Roedd y geiriadur ar fy hen ffôn yn niwsans achos yr hysbysebion. Byddwn i hanner ffordd trwy deipio gair tu mewn a - bing! Prynwch Candy Crush Saga Nawr! Bargen! Cau'r hysbyseb, cau'r ap, dechrau eto. Grrr.

Wrth gwrs mae popeth yn iawn nawr. Ap go iawn, dim hysbysebion o gwbl, atebion cyflym ... ond mae problem newydd. Mae'r geiriadur y brifysgol yn barchus iawn ac mae rhai geiriau pwysig ar goll.

Roedd y bwyty'n drewi ar ddiwedd y dydd, o saim a bacwn, rhechfeydd a mwg.

Hmm, mae'n swnio'n cyfarwydd ond beth yw'r gair? Wel mae'n amlwg bod neb yn y brifysgol yn rhechu erioed achos does dim un gair sy'n dechrau gyda rhech. Mae'r llyfr yn llawn o iaith liwgar sy ddim yn cael ei esbonio yn yr ap.

Mae'r llyfr yn sôn am dogging hefyd (rhan bwysig o fy addysg yw'r stori 'ma). Mae'r prif dditectif yn archwilio ar y we, ac yn darllen hefyd am seagulling. Beth yn y byd yw seagulling? Lle tywyll siwr o fod ac oes cymorth gyda'r disgrifiad o'r geiriadur enfawr? Nac oes. Mae'r twr iforaidd yn lle saf a chyfforddus o hyd.

16/01/2015

Iaith y Nefoedd

Yr wythnos hon ro'n ni'n drilio ymadroddion yn debyg i "gwyn eich byd".
Dw i'n mynd i ffwrdd fory - Gwyn eich byd chi
Mae e'n ymddeol y mis nesa - Gwyn ei fyd e.

Mae hi'n swnio braidd yn od, ond hen idiom yw hynny. Ym Meibl William Morgan mae'r rhan gyntaf o'r Bregeth ar y Mynydd yn cael ei hadnabod fel 'Y Gwynfydau' achos mae pob pennill yn dechrau gyda 'Gwyn eu byd'
Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,
oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
Mae cyfieithiad cyfoes yn hollol wahanol
Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau
Defnyddiodd Waldo Williams  yr un idiom yn gytgan ei gerdd 'Y Tangnefeddwyr', un o'r cerddi Gymraeg enwocaf yr ugeinfed ganrif.
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,
Tangnefeddwyr, plant i Dduw.
Astudiais i'r gerdd ar gyfer arholiad uwch y llynedd ac mae hi'n un pwerus. Heddychwr oedd Waldo Williams a lleoliad ei gerdd yw’r bomio Abertawe dros dri diwrnod ym mis Chwefror 1941. Nid am y rhyfel ei hun yw’r gerdd ond am agweddau pobl tuag at ei gilydd. Dysgodd o’i rieni bwysigrwydd gwirionedd a maddeuant, a'r perygl o feirniadu pobl a chenhedloedd fel petai ni sy’n dda a’r rheini sy’n ddrwg.

Ar ddiwedd y gerdd mae'r bardd yn gofyn pam ddylwn ni boeni am bethau bychain fel hyn pan mae’r holl fyd yn fflam? Yn ôl Waldo, dylwn, achos mae cymdeithas sefydlog yn seiliedig ar wirionedd a maddeuant, nid ar nerth a choncwest.

Tybed byddai Waldo'n cytuno â theimladau arddangoswyd ar dudalen cyntaf  cylchgrawn 'Charlie Hebdo' yr wythnos hon?
Mae popeth yn cael ei maddau;
Fi hefyd yw Charlie

05/01/2015

Teipio'r to bach a'i ffrindiau

Fel arfer dw i'n defnyddio 'Word' i deipio dogfennau yn Gymraeg achos mae'n hawdd ffeindio llythrennau acennog. Ond sut i wneud yn y blog 'ma? Bysellfwrdd (keyboard) Cymraeg wrth gwrs! Dyma'r manylion sy'n arddangos sut i wneud hyn ar safle MEUCymru. Mae'n rhaid i fi gyfaddef bod defnyddiais i'r tudalen Saesneg, ond peidiwch â dweud wrth neb.

Ar y taskbar nawr mae 'EN'. Cliciwch yna i newid i 'CY'.

Dyma'r rhestr shortcuts, a dyma ni - to bach ar y tŷ bach.

Blwyddyn Newydd Dda

Dyma'r post cyntaf 2015, gwell hwyr na hwyrach.

Roedd fy ngwraig yn chwilio am fideo o draddodiadau nos galan a ffeindiodd hi'r peth yma.


Cymru, gwlad y gân! Y dyddiau hyn mae deddfau gwrthderfysgaeth yn erbyn pethau fel hyn. Cadwch fwced o ddŵr oer llan llofft, jyst rhag ofn.