14/03/2015

Cwys Cymraeg

Sut dyn ni'n dysgu iaith? Beth sy'n digwydd pan dyn ni'n clywed neu ddarllen yn yr ail iaith? Siŵr o fod mae pob un ohonynt yn wahanol.

Yr wythnos hon ro'n ni'n gwrando ar Pigion yn y dosbarth ac roedd dau glip, un gyda Si Naylor, dysgwr oedd yn siarad yn rhugl ond gyda llawer o eiriau Saesneg am ddringo mynyddoedd ac un gyda Betsan Powys yn siarad yn gyflym am ddigwyddiad er cof T Llew Jones. Pa un oedd yn haws i'w ddeall?

Dim syndod, roedd well gyda'r rhan fwyaf y Sais. Syndod mawr, roedd well gyda fi Betsan. Yyy? Fel arfer dw i'n stryglo gyda gwrando, a dweud y gwir deallais i ddim popeth o Betsan, oedd yn siarad fel machine gun. Ddylai Si ddim wedi bod yn haws i'w ddeall? Oedd y geiriau Saesneg ddim yn help? Ydw i'n rhai math o purist? A beth yn y byd yw'r llun 'ma.

Cwysi, furrows. Yn fy meddwl mae cwys ddwfn o Saesneg a chwys ysgafn o Gymraeg. Mae dilyn y cwys Saesneg yn hawdd iawn ond dw i'n cydbwyso yn ofalus yn y cwys Cymraeg. Unrhyw broblem, un gair cyfarwydd Saesneg a dw i'n cwympo'n ôl i'r cwys ddwfn Saesneg. Felly gyda Si ro'n i'n meddwl yn Saesneg, yn trio cyfieithu'r Gymraeg ac yn methu achos roedd e'n siarad yn gyflym. Gyda Betsan roedd y Gymraeg yn golchi ar fy ôl i; dim ond cael y jist o'n i, ond gallwn i aros yn y cwys Cymraeg.

Peidiwch gyfieithu, dyna beth maen nhw'n dweud. Haws dweud na gwneud ond dw i'n gweithio arno. I'r gad!

1 comment:

  1. Dwi'n dysgu lot wrth ddarllen hyn! I'r gad!

    Dyn ni'n swnio fel Mr Ellis Gwaith Cartref nawr - Roedd Peter Griffiths Ysgol Gyfun Llanhari yn arfer defnyddio hynny gyda'r plant bob dydd.

    ReplyDelete