18/02/2015

Adolygiad Mr Blaidd gan Llwyd Owen

Gwelais i ddarn o'r nofel hon ym mhrawf ddarllen arholiad uwch 2014 a mwynheuais. Mae'r stori'n dweud am ferch sy'n mynd i Gaerdydd o fferm ei rhieni i chwilio am ei chwaer sy wedi diflannu'n llwyr sawl wythnos gynt. Ar ei thaith dyn ni'n cwrdd â llawer o gymeriadau diddorol - heddweision, gwerthwyr cyffuriau, puteiniaid ac y Maer - pobl gyda hanesion lliwgar a chyfrinachau tywyll.

Mae lot o droeon yn y plot ac mae'r stori yn cadw'r sylw tan y tudalen olaf. Mae digon o hiwmor a digon o dywyllwch hefyd.

Mae'r nofel yn addas i ddysgwyr uwch, yn enwedig i ni yn y De, achos mae hi'n defnyddio iaith a thafodiaith Caerdydd, ac mae'n iaith fodern a dim rhy lenyddol. Mae rhai o'r Cymry yn y nofel yn stryglo gyda'r iaith hefyd:
"... gofynnwch iddo fy ffonio cyn gynted â bo modd ..."
"Cyn gynted â bo beth, luv?"
"ASAP."
"O, iawn, dim probs."
Dw i'n argymell y nofel yn uchel. Mae hi ar gael o Amazon mewn print neu i Kindle, ac o safle'r Lolfa. Dych chi'n gallu llawrlwytho'r hen bapur arholiad sy'n cynnwys y darn o safle CBAC i gael blas o'r nofel.

Bydda i'n prynu un arall gan Llwyd Owen yn fuan.

11/02/2015

Problemau'r Byd Cyntaf

Roedd 'ngwraig yn gweithio ar y cyfrifiadur neithiwr ac yn sydyn clywais i ebychiad "O ... ymmm ... help!". Roedd hi wedi defnyddio rhyw gyfuniad bysell (key combination) hudol, cyfrinachol ar y bysellfwrdd ac roedd y sgrin wedi troi 90 gradd.
Doedd dim syniad gyda hi neu gyda fi beth oedd y bysell hudol, felly roedd rhaid i ni fynd i'r tudalen settings. Symudwch y pwyntydd i'r cornel de uchaf i ffeindio'r Charms Bar. Ond nawr mae'r cornel de isaf.  A dyw'r pad llygoden ddim wedi troi o gwbl. Symud y llygoden i fyny - pwyntydd yn symud i'r dde.

Ar ôl rhai munud gyda'r ddau ohonon ni'n cael cric yn y gwddf a phoen yn y pen ôl cafodd normalrwydd ei adfer.

Yn ôl fy mab [Ctrl-Alt-Up] yw'r ateb. Roedd e'n arfer defnyddio hynny trwy'r amser i drolio ei ffrindiau yn yr ysgol.

08/02/2015

Memrise - Magu Cof, Magu Hyder

Mae Memrise yn safle wefan ddefnyddiol iawn, ffordd o ddysgu geirfa newydd. Doedd amau gyda fi i ddechrau ond ar ôl mis dw i'n gallu dweud fod hi'n help mawr i fi gofio geirfa'r cwrs.

Pan ddych chi'n dechrau gyda Memrise, y ffordd gorau yw defnyddio sy wedi cael ei baratoi yn barod. A diolch i Debs, sy wedi mewnbynnu'r holl eirfa o bob un o'r unedau yng nghwrs Uwch 4, mae cwrs perffaith i ni yn y dosbarth. Chwilio am Welsh Uwch 4.

Pan ddych chi'n dechrau ar lefel newydd mae'r safle yn dangos tua 4 geiriau newydd, wedyn dych chi'n eu hadolygu nhw'n syth trwy ddewis o restr (multiple choice). Ar ôl ddysgu sawl grŵp o eiriau mae'r adolygiad yn newid - mae'n rhaid i chi deipio'r geiriau i mewn. Mae'r safle yn cofio pa eiriau sy'n achosi helynt i chi ac yn eu dangos nhw i chi yn fwy aml. Ar ôl dysgu gair mae'r adolygiadau'n dod yn llai aml.

Cyn defnyddio'r safle baswn i'n cofio'r geiriau am sawl diwrnod ond heb adolygu maen nhw'n diflannu'n gyflym. Bellach mae'r cyfrifiadur yn dewis geiriau i fi adolygu. Mae'r gyfundrefn yn gweithio (i fi) yn dda iawn ac mae'n brin i fi anghofio gair yn llwyr nawr. Weithiau mae camgymeriad bach mewn sillafu, ond dim ots.

Dyw hi ddim yn berffaith. Fydd y cyfrifiadur ddim yn derbyn y gair os mae gwahaniaeth bach, e.e. os mae'r gair yn cael ei ysgrifennu fel Rhyfeddu (at) fydd e ddim yn derbyn Rhyfeddu at heblaw'r cromfachau.

Mae'r adolygu yn canolbwyntio ar ddangos y gair Saesneg ac yn gofyn i'r gair Cymraeg. Pan ddych chi'n siarad neu ysgrifennu dyna'r peth gorau. Ond pan ydw i'n darllen Cymraeg, dw i'n gweld gair Cymraeg, dw i'n gwybod dw i wedi ei ddysgu fe, ond mae cysylltiad unffordd yn fy meddwl.

Dw i'n argymell y safle achos dw i ddim wedi ffeindio ffordd well i ddysgu geirfa.

02/02/2015

Ar goll yn cyfieithu

Dych chi'n gallu cyfieithu Lost in Translation fel hynny?

Mae'r GIG wedi bod yn moderneiddio. Hwyl fawr i aros mewn ciw, yn gwrando ar hysbysebion iechyd cyhoeddus tan y dderbynyddes yn ateb y ffôn a helo i'r Profiad Ar-Lein newydd sbon sgleiniog! Dewiswch y meddyg, edrych ar restr o apwyntiadau ar gael a chliciwch.

Wedyn, 24 awr cyn yr apwyntiad, byddwch yn derbyn neges e-bost fel 'na:

Appointment Reminder/Cafodd yr apwyntiad ei ganslo

Be' ddigwyddodd? O, dim problem. Dim ond apwyntiad y Welshies sy wedi cael ei ganslo; mae'r apwyntiad yn Saesneg yn iawn. Ha ha, doniol iawn.

Ond dyw hi ddim yn ddoniol. Tasai fy Mam yng nghyfraith wedi derbyn y neges hon, basai hi wedi credu'r neges Gymraeg a fasai hi ddim wedi mynd. Mae'r neges yn y Gymraeg yn hollol glir ac yn hollol anghywir. Beth yw'r pwynt mewn darparu cyfieithiad anghywir, yn enwedig un fydd yn achosi gofid i'r darllenydd?

Mae fy ngwraig wedi derbyn tair neges fel hynny erbyn hyn. Y tro cyntaf cwynodd hi i'r feddygfa leol. Dim diddordeb - "Sorry love, it's the NHS system, not ours. Anyway it's obvious if you look at the English". E-bostiodd hi wales.nhs.uk - dim ymateb. Yr ail dro, e-bostiodd hi Fwrdd yr Iaith - dim ymateb. Ac y tro 'ma? Pwy fydd yn gwrando, a phryd? Efallai pan mae clefyd ar goll yn cyfieithu.