12/04/2015

Adolygiad Saith Oes Efa

Llyfr arall o Lleucu Roberts, enillodd fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Mae'r llyfr hwn yn hollol wahanol o'r un dyn ni wedi bod yn darllen yn y dosbarth, Rhwng Edafedd. Nid nofel yw hon ond casgliad o saith stori fer, pob un am fenyw neu ferch am adeg o fywyd gwahanol. Mae'r teitl yn cyfeirio at yr araith Seven Ages of Man gan Shakespeare sy'n disgrifio'r adegau o fywyd dyn.

Mae'r storïau'n siarad am ferch mewn ysgol gynradd, merch mewn ysgol gyfun, dynes ifanc, mam newydd, ffermwraig, menyw ganol oed a hen ddynes sy'n marw yn yr ysbyty.

Mae pob un yn cael ei ysgrifennu yn y person cyntaf gydag iaith lafar, iaith o bedwar ban Cymru. Dyw hi ddim mor hawdd i ddysgwyr ac roedd rhaid i fi dreulio tipyn o amser ail-ddarllen ar ddechrau pob pennod er mwyn cael y jyst o'r dafodiaith. Ond ar ôl sbel daith popeth yn haws - tan y bennod nesaf.

Mae'r iaith yn ddiddorol iawn achos yr ardaloedd gwahanol a hefyd achos yr oedran a'r sefyllfa pob cymeriad. Mae'r ferch ysgol o Ferthyr ym mhennod 2 yn defnyddio llawer o Wenglish; mae pennod 3 yn dechrau gydag iaith farddol a lenyddol iawn, ond (yn ffodus i fi) yn newid nôl i'r iaith gyffredin.

Ro'n i wedi drysu ym mhennod 4 ble mae'r fenyw yn cyfeirio at yr elen (the leech). Doedd dim ar ôl ail-ddarllen y dudalen gyntaf sawl gwaith sylweddolais i fod hi'n siarad am ei babi, heb enw eto.

Mwynheais i'r llyfr ond roedd e'n waith caled i fi, mwy nag oedd Rhwng Edafedd, achos bod yr iaith yn newid bob pennod ac roedd rhaid i fi diwnio i mewn bob tro. Ymarfer da wrth gwrs, ac ar ôl sawl tudalen byddai'r dafodiaith newydd yn dechrau llifo yn fy mhen unwaith eto.

No comments:

Post a Comment