18/03/2015

Cymreigio'r We!

 Goto eincartrefarlein.cymru
Ers 1af Mawrth 2015, Dydd Gwŷl Dewi, mae enwau parth (domain names) newydd i Gymru. Yn ôl Golwg360 cofrestrwyd 1000 o enwau yn yr awr gyntaf a 5000 yn y 24awr cyntaf. Mae'r hen enwau parth yn gweithio o hyd, ond nawr gallech chi fynd i www.s4c.cymru, www.urdd.cymru, wru.cymru, ayyb.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cofrestru cymdeithas.cymru ond ar ôl glicio ar y linc mae hi'n troi'n ôl i cymdeithas.org. Pwy sy'n hyrwyddo'r iaith nawr? Cwestiwn i Jamie Bevan wythnos nesaf ...

[31 Mawrth: mae cymdeithas.cymru yn gweithio nawr]

Beth am y llong enfawr eisteddfod.cymru? Mae hi'n dod ... mewn munud ... wedi cofrestru ddoe, dim byd yn gweithio eto. Tipyn yn hwyr i'r parti ond erbyn 2016 bydd popeth yn hedfan.

14/03/2015

Cwys Cymraeg

Sut dyn ni'n dysgu iaith? Beth sy'n digwydd pan dyn ni'n clywed neu ddarllen yn yr ail iaith? Siŵr o fod mae pob un ohonynt yn wahanol.

Yr wythnos hon ro'n ni'n gwrando ar Pigion yn y dosbarth ac roedd dau glip, un gyda Si Naylor, dysgwr oedd yn siarad yn rhugl ond gyda llawer o eiriau Saesneg am ddringo mynyddoedd ac un gyda Betsan Powys yn siarad yn gyflym am ddigwyddiad er cof T Llew Jones. Pa un oedd yn haws i'w ddeall?

Dim syndod, roedd well gyda'r rhan fwyaf y Sais. Syndod mawr, roedd well gyda fi Betsan. Yyy? Fel arfer dw i'n stryglo gyda gwrando, a dweud y gwir deallais i ddim popeth o Betsan, oedd yn siarad fel machine gun. Ddylai Si ddim wedi bod yn haws i'w ddeall? Oedd y geiriau Saesneg ddim yn help? Ydw i'n rhai math o purist? A beth yn y byd yw'r llun 'ma.

Cwysi, furrows. Yn fy meddwl mae cwys ddwfn o Saesneg a chwys ysgafn o Gymraeg. Mae dilyn y cwys Saesneg yn hawdd iawn ond dw i'n cydbwyso yn ofalus yn y cwys Cymraeg. Unrhyw broblem, un gair cyfarwydd Saesneg a dw i'n cwympo'n ôl i'r cwys ddwfn Saesneg. Felly gyda Si ro'n i'n meddwl yn Saesneg, yn trio cyfieithu'r Gymraeg ac yn methu achos roedd e'n siarad yn gyflym. Gyda Betsan roedd y Gymraeg yn golchi ar fy ôl i; dim ond cael y jist o'n i, ond gallwn i aros yn y cwys Cymraeg.

Peidiwch gyfieithu, dyna beth maen nhw'n dweud. Haws dweud na gwneud ond dw i'n gweithio arno. I'r gad!

08/03/2015

Cyfri Defaid

Hen gyfundrefn rifau draddodiadol - rhywbeth sy'n bodoli yn unig i fod yn hunllef i ddysgwyr, ac fel y treigladau, rhywbeth yn unigrhyw i'r Gymraeg. Dyna sut mae pethau yn ymddangos weithiau, ond dyw e ddim yn gywir.

Mae'r gyfundrefn yn un hen, ond nid yn unigrhyw o gwbl. Mae'n cael ei defnyddio mewn nifer o ieithoedd ledled y byd, hyd yn oed yn Saesneg. Cafodd ei henwi Vigesimal ar ôl y gair Lladin Vicesimus (ugeinfed). [Diolch i Chris Chetwynd, gramadeg-gi arbennig, am y wybodaeth hon]. Y peth rhyfeddaf yw bod un o'r ieithoedd mwyaf cyson yw'r Gymraeg.

Saesneg: 1-20 vigesimal, 21-100 decimal. Dyn ni'n dweud fourteen yn lle tenty four.
Ffrangeg: 1-20, 60-100 vigesimal, 21-59 decimal. Maen nhw'n dweud soixante-quinze (75), quatre-vingt (80). Ond yn Ffrangeg Gwlad Belg a'r Swistir maen nhw'n dweud septante (70) a nonante (90).
Daneg: Llawer o hwyl! 56 = seksoghalvtreds six and [two score plus] half [of the] third (score). 56th = seksoghalvtredsindstyvende. Hei, mae'r Gymraeg yn easy peasy!

Mae'r cymysged yn parhau mewn ieithoedd eraill: Georgia, Albania, Basque, Slovenia, rhai yn Affrica, Inuit a'r hen ieithoedd Aztec a Maya.

Dyn ni ddim yn dioddef ar ein pennau ein hunain. Yn ddiolchgar mae plant yn yr ysgolion nawr yn defnyddio'r gyfundrefn gyfoes. Mae hynny yn beth da achos dyw'r gan un ar bymtheg ar drigain trombôn yn y parêd mawr ddim yn gweithio yn dda iawn yn fy marn i.

Adloniant Ddydd Gŵyl Dewi

Ymunais i Gyfeillion Y Fenni eleni am eu cinio blynyddol yng Nghlwb Golff Sir Fynwy. Achlysur hyfryd oedd hi: 68 o bobl dw i'n meddwl, pawb yn siarad Cymraeg a bwyd gwych.

Ond yr uchafbwynt i fi oedd yr adloniant ar ôl cinio. Daeth y delynores Bethan Nia i berfformio nifer o ganeuon gwerin. Roedd llawer o'r caneuon yn gyfarwydd iawn achos mae pawb yn canu Ar Lan y Môr, Bugeilio'r Gwenith Gwyn, Ym Mhontypridd ayyb. Ond nid trefniannau traddodiadol oedd yr hyn i gyd. Mae Bethan yn cyfansoddi ei threfniannau ei hun ac maen nhw'n swnio'n fwy ffres. Dw i'n ffan o'r grŵp werin Alaw ac mae'r un sŵn gyda nhw, gyda cross rhythms a weithiau tipyn o dywyllwch.

Roedd John Thomas, telynor i'r Frenhines Fictoria, yn gyfrifol am lawer o'r trefniannau dyn ni'n clywed heddiw. Maen nhw'n gymhleth ac yn blodeuog, bwriedir i ddangos sgil o'r canwr, ac maen nhw'n hyfryd. Ond gyda'r trefniannau hyn dw i'n meddwl bod ni'n dychwelyd i galon y gerddoriaeth.

Os oes cyfle i chi glywed Bethan, neu Alaw, dw i'n gallu argymell y ddau yn uchel.