01/01/2016

Awyrgylch y Mynyddoedd

Dechreuais i sgwennu'r post hwn nôl ym mis Awst ar ôl i ni ddychwelyd o'n gwyliau ar Ynys Môn. Ro'n ni'n agos i un o fy hoff ardaloedd ym Mhrydain, yr Eryri. Mae tair blynedd ers i mi gael problemau fy nghoesau a dw i'n colli'r mynyddoedd a'r awyr agored. Gyrron ni lan Bwlch Llanberis i Ben y Pas un noswaith braf er mwyn cerdded rhyw 50 metr o'r Pyg Track.

Mae rhywbeth arbennig, unigryw am awyrgylch y mynyddoedd. Hyd yn oed heblaw edrych, mae'r seiniau ac  yr aroglau'n wahanol. 20 metr o'r maes parcio mae sŵn dynoliaeth yn diflannu ac mae'r llonyddwch yn dychwelyd. Llonyddwch, nid tawelwch. Mae'r defaid yn galw at ei gilydd, adleisio o'r garreg galed. Y gwynt yn sibrwd trwy'r grug a'r eithin. Adar bychain yn hedfan yn ddistaw rownd frig o gerrig ochr arall y cwm.

Mae grŵp o gerddwr yn dod heibio, siarad am eu diwrnod, edrych ymlaen at baned ar ôl diwrnod hir. Ond mewn eiliadau maen nhw'n pasio, eu lleisiau ar goll yn yr awyr agored. Wrth eistedd ar garreg, sylwaf unwaith eto'r manylion bychain - y blodau bychain yn cysgodi o'r gwynt, mynyddoedd a bylchau, haenau o borffor-llwyd yn pylu yn y pellter, y borfa torrwyd yn fyr gan y defaid.

Mae copa Crib Goch yn fy ngalw ata i ond bydd rhaid iddi aros am ddiwrnod arall.

30/12/2015

Dan Gadarn Goncrit - Mihangel Morgan

Dyma lyfr arall gan Mihangel Morgan. Dw i'n hoff iawn o'i waith a'i arddull unigryw - amrywiaeth o gymeriadau eithaf od, a'r hiwmor sy'n goleuo'r llyfr. Meistr o ddisgrifiad yw Mihangel Morgan, yn rhoi cnawd ar bob person a phob sefyllfa. Ydy ei storïau’n gredadwy? Nage wir, ond pa ots? Mae cymaint o hwyl yn ei ddarllen.

Mae'r nofel dipyn o ddirgelwch. Cael merch fach ei lladd mewn damwain ond does neb yn gwybod pwy oedd hi, neu pam oedd hi ar y ffordd yn y nos. A beth sy'n digwydd gyda phobl ryfedd yn y dref? Mae Mihangel Morgan yn gweu plot cymhleth sy'n cysylltu pawb a phopeth mewn cadwyn. Mae'n llawn of hiwmor ond hefyd pathos a thristwch. Cefais i fy machu tan y dudalen olaf.

Y Teyrn - Gareth W Williams

Daeth Gareth W Williams i siarad â ni yn y dosbarth Cymraeg mis diwethaf. Siarad am y broses o ysgrifennu nofel oedd e, a phenderfynon ni brynu ei nofel ditectif Y Teyrn i ddarllen fel dosbarth.

Mae straeon ditectif wedi bod gyda ni ers canrifoedd ond mae'r arddull yn newid trwy'r amser. Sherlock Holmes, Hercule Poirot, Inspector Morse, ac yn ddiweddar mae'r Gwyll a Nordic Noir i'w weld ar y teledu. Y llynedd darllenon ni  Noson yr Heliwr gan Lyn Ebenezer roedd nofel o'i hoes. Dyn ni'n disgwyl pethau mwy credadwy ac ar ôl wel cymaint ar y teledu dyn ni disgwyl disgrifiadau sy'n dod â'r tirlun yn fyw.

Mae Gareth W Williams yn dosbarthu gyda chymeriadau real a delweddau cryf o'r ardal. Adeiladwyd y stori'n ofalus a gydag arddull sy'n gwneud i ni ddarllen mwy.

Dw i'n edrych ymlaen at lyfr nesaf y gyfrol.

31/08/2015

Atyniad - Fflur Dafydd

Dyma stori gan gantores ac awdur Fflur Dafydd, enillydd y fedal ryddiaith yn 2006.Stori wahanol yw hon, er mewn rhai ffyrdd tebyg i lyfrau Cymraeg arall fel Saith Oes Efa a Blasu, gan fod llais gwahanol yn dweud pob pennod. O'r crynodeb ...
Ynys Enlli yw prif gymeriad y nofel hon - yr ynys a'i hatyniad sy'n rheoli llanw a thrai teimladau'r cymeriadau lliwgar, yr ynyswyr, ymwelwyr ac awduron ddaw i'r ynys am gyfnod byr i chwilio am ddihangfa, llonyddwch a serch. Yng nghwmni un o'r awduron preswyl ceir darlun cyfareddol o ddylanwad yr ynys ar bobl a'u breuddwydion ...
Mae'r nofel yn archwilio bywyd yr ynys mewn cymuned fach, y perthnasau, y tensiynau ac yn y cefndir yr ynys ei hunan a'i bywyd gwyllt sy wedi parhau am filoedd o flynyddoedd. Mae rhai pethau yn fy atgoffa i o fy amser yng nghymuned Lee Abbey yn Nyfnaint yn y 1990au (pan o'n i'n ifanc a'r gwynt yn chwythu trwy fy ngwallt brown cyrliog ...)

Gorffennais i'r llyfr hwn ar wyliau ym Môn sawl wythnos yn ôl ac roedd darllen gwyliau da iawn. Dim ond 159 tudalen.

16/08/2015

Arwyddion yr Adegau

Aethon ni ar wyliau i Ynys Môn a Gwynedd eleni, ardal enwog am ei Chymreictod. Yn y gorffennol dw i'n cofio lot mwy o Gymraeg ond clywais i lai y tro yma. Llwyddais i archebu cinio yn Gymraeg (dim ond unwaith) ond byddai rhai pobl yn siarad Cymraeg "only if I 'ave to". Siomedig.

Syndod mawr i fi oedd yr arwyddion answyddogol. Doedd dim llawer yn Gymraeg ac roedd lot o sillafu diddorol. Dyma ni ym Mhorthaethwy. Gardd Cwrw, Cewri, Cyri, Gyrru?

Ym Meddgelert dych chi'n gallu prynu hufen iâ arbennig. Blasus dros ben - cefais i sorbet cyrens duon - a dw i'n siŵr bod yr hufen yn dod o wartheg duon Cymreig.

Gyrron ni o Gaernarfon i Feddgelert, heibio hostel ieuenctid Snowdon Ranger ac ar y map mae lle o'r enw Caeaugwynion. Wel mae'n amlwg bod caeau yn wyrdd, nid yn wyn heblaw ym mis Ionawr. Dych chi'n gallu clywed y plant ar ddechrau'r llwybr yn dweud "O Dad, oes rhaid i ni ddringo'r mynydd fan'na?" felly dwi'n meddwl bod camdreiglad yw e a dylai bod Caeau Cwynion.