Aethon ni ar wyliau i Ynys Môn a Gwynedd eleni, ardal enwog am ei Chymreictod. Yn y gorffennol dw i'n cofio lot mwy o Gymraeg ond clywais i lai y tro yma. Llwyddais i archebu cinio yn Gymraeg (dim ond unwaith) ond byddai rhai pobl yn siarad Cymraeg "only if I 'ave to". Siomedig.
Syndod mawr i fi oedd yr arwyddion answyddogol. Doedd dim llawer yn Gymraeg ac roedd lot o sillafu diddorol. Dyma ni ym Mhorthaethwy. Gardd Cwrw, Cewri, Cyri, Gyrru?
Ym Meddgelert dych chi'n gallu prynu hufen iâ arbennig. Blasus dros ben - cefais i sorbet cyrens duon - a dw i'n siŵr bod yr hufen yn dod o wartheg duon Cymreig.
Gyrron ni o Gaernarfon i Feddgelert, heibio hostel ieuenctid Snowdon Ranger ac ar y map mae lle o'r enw Caeaugwynion. Wel mae'n amlwg bod caeau yn wyrdd, nid yn wyn heblaw ym mis Ionawr. Dych chi'n gallu clywed y plant ar ddechrau'r llwybr yn dweud "O Dad, oes rhaid i ni ddringo'r mynydd fan'na?" felly dwi'n meddwl bod camdreiglad yw e a dylai bod Caeau Cwynion.
No comments:
Post a Comment