Dyma lyfr arall gan Mihangel Morgan. Dw i'n hoff iawn o'i waith a'i arddull unigryw - amrywiaeth o gymeriadau eithaf od, a'r hiwmor sy'n goleuo'r llyfr. Meistr o ddisgrifiad yw Mihangel Morgan, yn rhoi cnawd ar bob person a phob sefyllfa. Ydy ei storĂ¯au’n gredadwy? Nage wir, ond pa ots? Mae cymaint o hwyl yn ei ddarllen.
Mae'r nofel dipyn o ddirgelwch. Cael merch fach ei lladd mewn damwain ond does neb yn gwybod pwy oedd hi, neu pam oedd hi ar y ffordd yn y nos. A beth sy'n digwydd gyda phobl ryfedd yn y dref? Mae Mihangel Morgan yn gweu plot cymhleth sy'n cysylltu pawb a phopeth mewn cadwyn. Mae'n llawn of hiwmor ond hefyd pathos a thristwch. Cefais i fy machu tan y dudalen olaf.
No comments:
Post a Comment