30/12/2015

Y Teyrn - Gareth W Williams

Daeth Gareth W Williams i siarad â ni yn y dosbarth Cymraeg mis diwethaf. Siarad am y broses o ysgrifennu nofel oedd e, a phenderfynon ni brynu ei nofel ditectif Y Teyrn i ddarllen fel dosbarth.

Mae straeon ditectif wedi bod gyda ni ers canrifoedd ond mae'r arddull yn newid trwy'r amser. Sherlock Holmes, Hercule Poirot, Inspector Morse, ac yn ddiweddar mae'r Gwyll a Nordic Noir i'w weld ar y teledu. Y llynedd darllenon ni  Noson yr Heliwr gan Lyn Ebenezer roedd nofel o'i hoes. Dyn ni'n disgwyl pethau mwy credadwy ac ar ôl wel cymaint ar y teledu dyn ni disgwyl disgrifiadau sy'n dod â'r tirlun yn fyw.

Mae Gareth W Williams yn dosbarthu gyda chymeriadau real a delweddau cryf o'r ardal. Adeiladwyd y stori'n ofalus a gydag arddull sy'n gwneud i ni ddarllen mwy.

Dw i'n edrych ymlaen at lyfr nesaf y gyfrol.

31/08/2015

Atyniad - Fflur Dafydd

Dyma stori gan gantores ac awdur Fflur Dafydd, enillydd y fedal ryddiaith yn 2006.Stori wahanol yw hon, er mewn rhai ffyrdd tebyg i lyfrau Cymraeg arall fel Saith Oes Efa a Blasu, gan fod llais gwahanol yn dweud pob pennod. O'r crynodeb ...
Ynys Enlli yw prif gymeriad y nofel hon - yr ynys a'i hatyniad sy'n rheoli llanw a thrai teimladau'r cymeriadau lliwgar, yr ynyswyr, ymwelwyr ac awduron ddaw i'r ynys am gyfnod byr i chwilio am ddihangfa, llonyddwch a serch. Yng nghwmni un o'r awduron preswyl ceir darlun cyfareddol o ddylanwad yr ynys ar bobl a'u breuddwydion ...
Mae'r nofel yn archwilio bywyd yr ynys mewn cymuned fach, y perthnasau, y tensiynau ac yn y cefndir yr ynys ei hunan a'i bywyd gwyllt sy wedi parhau am filoedd o flynyddoedd. Mae rhai pethau yn fy atgoffa i o fy amser yng nghymuned Lee Abbey yn Nyfnaint yn y 1990au (pan o'n i'n ifanc a'r gwynt yn chwythu trwy fy ngwallt brown cyrliog ...)

Gorffennais i'r llyfr hwn ar wyliau ym Môn sawl wythnos yn ôl ac roedd darllen gwyliau da iawn. Dim ond 159 tudalen.

16/08/2015

Arwyddion yr Adegau

Aethon ni ar wyliau i Ynys Môn a Gwynedd eleni, ardal enwog am ei Chymreictod. Yn y gorffennol dw i'n cofio lot mwy o Gymraeg ond clywais i lai y tro yma. Llwyddais i archebu cinio yn Gymraeg (dim ond unwaith) ond byddai rhai pobl yn siarad Cymraeg "only if I 'ave to". Siomedig.

Syndod mawr i fi oedd yr arwyddion answyddogol. Doedd dim llawer yn Gymraeg ac roedd lot o sillafu diddorol. Dyma ni ym Mhorthaethwy. Gardd Cwrw, Cewri, Cyri, Gyrru?

Ym Meddgelert dych chi'n gallu prynu hufen iâ arbennig. Blasus dros ben - cefais i sorbet cyrens duon - a dw i'n siŵr bod yr hufen yn dod o wartheg duon Cymreig.

Gyrron ni o Gaernarfon i Feddgelert, heibio hostel ieuenctid Snowdon Ranger ac ar y map mae lle o'r enw Caeaugwynion. Wel mae'n amlwg bod caeau yn wyrdd, nid yn wyn heblaw ym mis Ionawr. Dych chi'n gallu clywed y plant ar ddechrau'r llwybr yn dweud "O Dad, oes rhaid i ni ddringo'r mynydd fan'na?" felly dwi'n meddwl bod camdreiglad yw e a dylai bod Caeau Cwynion.

20/07/2015

Mwy o Lyfrau

Ar ôl wythnosau o ddarllen gyda Blasu dyma rywbeth ysgafnach, cwblhau mewn cwpl o ddiwrnod. Mae'n dweud y stori ei brwydr yn erbyn salwch difrifol (a gordewdra) a'i benderfyniad i ddychwelyd i seiclo. Llyfr diddorol, er erbyn y diwedd mae gormod o restrau - ei hof seiclwyr, ei hof lleoedd ar y Tour de France, ayyb.

Roedd fy merch yn tacluso'i silff llyfrau ac yn wneud tomen o'i hen lyfrau ysgol gynradd. Ymhlith yr hwn oedd Cês Hana, stori wir am ferch Iddewig ifanc o Tsiecoslofacia yn ystod yr ail ryfel byd. Mae cyfarwyddwraig amgueddfa'r holocost yn Siapan yn derbyn y cês o amgueddfa Auschwitz, ac mae'r llyfr yn dweud am ei hymdrechion i ddarganfod hanes perchennog y cês yn 2000, a hefyd stori Hana ei hunan yn y 1940au. Anelwyd at blant yw'r llyfr hwn, ond mae e o ddiddordeb i bawb ac yn addas i ddysgwyr hefyd.

Un o'r pethau mwyaf pwysig wnaethon ni yn y dosbarth dros y ddwy flwyddyn ddiwethaf oedd darllen llyfrau go iawn. Dweud y gwir do'n i ddim yn darllen yn aml, hyd yn oed yn Saesneg, a dw i ail-ddarganfod y pleser. Nofelau cyfoes yw'r rhai o'n i wedi bod yn darllen yn y dosbarth: Craciau gan Bet Jones a Rhwng Edafedd gan Lleucu Roberts, y ddau enillodd gwobrau llenyddol. Darllenon ni hefyd Noson yr Heliwr ond dyn ni ddim yn sôn amdano. I ddechrau roedd darllen yn Gymraeg yn anodd iawn, ond mae'n dod yn haws. Dw i'n ceisio darllen heb eiriadur, dyfalu y rhan mwyaf o eiriau anghyfarwydd a jyst symud ymlaen. Weithiau dyw pethau ddim yn wneud synnwyr o gwbl ac wedyn dw i'n edrych yn y geiriadur. Mae'r ymarfer yn talu yn dda; mae llawer mwy o hyder 'da fi bellach a dw i'n mwynhau llyfrau Cymraeg go iawn.

Ffeindiodd 'ngwraig nifer o lyfrau Cymraeg mewn rhyw siop elusen tua blwyddyn yn ôl, felly ar hyn o bryd dw i'n darllen Atyniad gan Fflur Dafydd, enillydd gwobr hefyd. Dw i ddim ond gorffen y ddwy bennod gyntaf, felly fydd yr adolygiad ddim yn dod mor fuan. [Gair i'r gall: mae'r drefn geiriau'n bwysig iawn yn Gymraeg. Rhyw siop elusen = Oxfam/Barnardos. Siop rhyw elusen = Ann Summers i'r tlodion]

Prynodd hi sawl llyfr eleni o stondinau Y Lolfa a Gwasg Gomer yn Eisteddfod yr Urdd, felly mae rhestr darllen hir 'da fi nawr. Joio, joio. Yr un oedd yn fy nrysu i oedd Bryn y Crogwr. Ro'n i'n meddwl am Jones y Stêm, ond na, lle, nid person, yw'r teitl yn cyfeirio ato fe.




07/07/2015

Adolygiad Blasu

Do'n i ddim yn siŵr am y llyfr hwn i ddechrau. Llyfr am goginio, phobi a merched y wawr yw e? Darllenon ni ddetholiad yn y dosbarth ac ar ôl i fi orffen yr ail bennod cefais i fy machu.

Mae'r stori'n dechrau yn 2010 gyda Pegi yn ei pharti pen-blwydd 80 oed yn meddwl nôl am ei bywyd, ac yn ogystal â chofion hapus mae'n amlwg bod cysgodion tywyll yn llechu yn y cefndir hefyd. Wedyn dyn ni'n mynd nôl i 1937 pan oedd hi'n 7 oed ac mae gweddill y llyfr yn dweud ei stori hi.

Nid yn ei geiriau ei hun dywedir y stori ond gan sawl person oedd yn bwysig yn ei bywyd, pob pennod gan berson gwahanol. Trwy sawl llais a dros 80 mlynedd dyn ni'n dysgu hanes Pegi ac yn gweld bywyd mewn cymuned wledig yng ngogledd Cymru. Mae pob pennod yn dechrau gyda rysáit, rhyw fath o fwyd oedd yn bwysig iddi, neu sy'n ei hatgoffa hi o'r gorffennol.

Mae Manon Steffan Ros wedi creu nofel unigryw, ac mae ei sgil mewn gwehyddu edafedd y stori yn amlwg. Enillodd hi lyfr y flwyddyn yng nghategori ffuglen gyda Blasu yn 2012 ac mae'n hawdd gweld pam. Weithiau dw i'n gripped gan stori antur neu dditectif ond prin gan stori fywgraffyddol. Mwynheais i bob tudalen a gallwn i ddim stopio darllen.

Prin iawn hefyd, mae stori wreiddiol Cymraeg wedi cael ei chyfieithu i Saesneg, a dw i'n meddwl am brynu The Seasoning i 'nhad yn Lloegr.