Dyma lyfr arall gan Mihangel Morgan. Dw i'n hoff iawn o'i waith a'i arddull unigryw - amrywiaeth o gymeriadau eithaf od, a'r hiwmor sy'n goleuo'r llyfr. Meistr o ddisgrifiad yw Mihangel Morgan, yn rhoi cnawd ar bob person a phob sefyllfa. Ydy ei storïau’n gredadwy? Nage wir, ond pa ots? Mae cymaint o hwyl yn ei ddarllen.
Mae'r nofel dipyn o ddirgelwch. Cael merch fach ei lladd mewn damwain ond does neb yn gwybod pwy oedd hi, neu pam oedd hi ar y ffordd yn y nos. A beth sy'n digwydd gyda phobl ryfedd yn y dref? Mae Mihangel Morgan yn gweu plot cymhleth sy'n cysylltu pawb a phopeth mewn cadwyn. Mae'n llawn of hiwmor ond hefyd pathos a thristwch. Cefais i fy machu tan y dudalen olaf.
30/12/2015
Y Teyrn - Gareth W Williams
Daeth Gareth W Williams i siarad â ni yn y dosbarth Cymraeg mis diwethaf. Siarad am y broses o ysgrifennu nofel oedd e, a phenderfynon ni brynu ei nofel ditectif Y Teyrn i ddarllen fel dosbarth.
Mae straeon ditectif wedi bod gyda ni ers canrifoedd ond mae'r arddull yn newid trwy'r amser. Sherlock Holmes, Hercule Poirot, Inspector Morse, ac yn ddiweddar mae'r Gwyll a Nordic Noir i'w weld ar y teledu. Y llynedd darllenon ni Noson yr Heliwr gan Lyn Ebenezer roedd nofel o'i hoes. Dyn ni'n disgwyl pethau mwy credadwy ac ar ôl wel cymaint ar y teledu dyn ni disgwyl disgrifiadau sy'n dod â'r tirlun yn fyw.
Mae Gareth W Williams yn dosbarthu gyda chymeriadau real a delweddau cryf o'r ardal. Adeiladwyd y stori'n ofalus a gydag arddull sy'n gwneud i ni ddarllen mwy.
Dw i'n edrych ymlaen at lyfr nesaf y gyfrol.

Subscribe to:
Posts (Atom)