12/04/2015

Adolygiad Saith Oes Efa

Llyfr arall o Lleucu Roberts, enillodd fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Mae'r llyfr hwn yn hollol wahanol o'r un dyn ni wedi bod yn darllen yn y dosbarth, Rhwng Edafedd. Nid nofel yw hon ond casgliad o saith stori fer, pob un am fenyw neu ferch am adeg o fywyd gwahanol. Mae'r teitl yn cyfeirio at yr araith Seven Ages of Man gan Shakespeare sy'n disgrifio'r adegau o fywyd dyn.

Mae'r storïau'n siarad am ferch mewn ysgol gynradd, merch mewn ysgol gyfun, dynes ifanc, mam newydd, ffermwraig, menyw ganol oed a hen ddynes sy'n marw yn yr ysbyty.

Mae pob un yn cael ei ysgrifennu yn y person cyntaf gydag iaith lafar, iaith o bedwar ban Cymru. Dyw hi ddim mor hawdd i ddysgwyr ac roedd rhaid i fi dreulio tipyn o amser ail-ddarllen ar ddechrau pob pennod er mwyn cael y jyst o'r dafodiaith. Ond ar ôl sbel daith popeth yn haws - tan y bennod nesaf.

Mae'r iaith yn ddiddorol iawn achos yr ardaloedd gwahanol a hefyd achos yr oedran a'r sefyllfa pob cymeriad. Mae'r ferch ysgol o Ferthyr ym mhennod 2 yn defnyddio llawer o Wenglish; mae pennod 3 yn dechrau gydag iaith farddol a lenyddol iawn, ond (yn ffodus i fi) yn newid nôl i'r iaith gyffredin.

Ro'n i wedi drysu ym mhennod 4 ble mae'r fenyw yn cyfeirio at yr elen (the leech). Doedd dim ar ôl ail-ddarllen y dudalen gyntaf sawl gwaith sylweddolais i fod hi'n siarad am ei babi, heb enw eto.

Mwynheais i'r llyfr ond roedd e'n waith caled i fi, mwy nag oedd Rhwng Edafedd, achos bod yr iaith yn newid bob pennod ac roedd rhaid i fi diwnio i mewn bob tro. Ymarfer da wrth gwrs, ac ar ôl sawl tudalen byddai'r dafodiaith newydd yn dechrau llifo yn fy mhen unwaith eto.

Safleoedd ac Aps Cymraeg

Sawl wythnos yn ôl soniais i am Cysill ar-lein ac Ap Geiriaduron. Beth arall sydd ar gael?

Safle newydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r iaith yw cymraeg.llyw.cymru gyda'r pennawd "Byw Dysgu Mwynhau". Mae tudalen newyddion ar gael gyda rhestrau o foreau coffi, clybiau darllen ayyb. Hefyd gwelais i dudalen Gwella dy Gymraeg gyda chysylltau i safleoedd o ddiddordeb i ddysgwyr.

Dyn ni wedi clywed cymru.fm yn y dosbarth. Gwasanaeth gerddoriaeth ar-lein, gyda phopeth yn Gymraeg. Mae ap Android ac iPhone hefyd.
Mae llawer o ddiddordeb i'w weld ar BBC Cymru Fyw ac mae ap ar gael hefyd. Storïau newyddion, cylchgrawn, etholiad. Mewn gwirionedd mae'r safle yn debyg iawn i safle newyddion, ond mae'r erthyglau yn y cylchgrawn yn benodol i Gymru, nid cyfieithiadau o erthyglau Saesneg.